Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Llwybrau’r annisgwyl: Moduro a chaethiwo

Dysgwch sut yr ysbrydolodd tirwedd Ynys Môn un o gerbydau mwyaf chwedlonol y byd, ymwelwch â ffynnon iachaol a phrofwch fywyd ar yr ochr anghywir i’r gyfraith ar y daith hynod hon o ddwyrain Ynys Môn. 

Golygfa o'r awyr o Gastell Biwmares gyda'r wawr a'r dref glan môr y tu hwnt
Cychwyn o
Traeth Coch
Gorffen yn
Biwmares
Pellter
Tua 17 milltir

Dechreuwch yn Nhraeth Coch, man geni’r Land Rover byd-enwog. Yn y fan hon, ym 1947, brasluniodd y peiriannydd Maurice Wilks ei gysyniad ar gyfer y cerbyd eiconig, gan ddefnyddio tywod euraidd meddal y traeth fel bwrdd arlunio. Yn ddiweddarach, profwyd prototeip y cerbyd gwydn ar dwyni trawiadol Traeth Coch, cyn iddo ddod yn un o gerbydau mwyaf adnabyddus, llwyddiannus a hirhoedlog y byd.

Os hoffech ddysgu mwy am gysylltiadau Ynys Môn â Land Rover, ymwelwch ag Amgueddfa Trafnidiaeth ac Amaethyddiaeth Tacla Taid ger Niwbwrch, ar ochr draw’r ynys.

Dilynwch yr A5025/B5109 drwy Fiwmares ac ewch yn eich blaenau ar y ffordd dosbarth B a’r is-ffordd i Benmon ym mhen dwyreiniol Ynys Môn. Yma fe welwch Ffynnon Seiriol, dafliad carreg o adfeilion Priordy Penmon, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif.

Wedi’i henwi ar ôl sylfaenydd y priordy, un o seintiau Cristnogol cynnar mwyaf nodedig Cymru, mae hon yn ffynnon dŵr croyw sy’n dod i’r wyneb drwy’r clogwyni garw. Tybir ei bod yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, ond mae’r gell garreg fechan y mae’n eistedd ynddi yn fwy diweddar. Yn ôl y sôn, mae i’r ffynnon nodweddion iachaol, a byddai’n cael ei defnyddio i fedyddio pobl, gan ddenu pererinion o bell ac agos.

Yna ewch yn ôl i Fiwmares am ginio.

Ar ôl cinio, mwynhewch ychydig o siopa yn Soulful Living Lifestyle. Mae’r boutique unigryw hwn dan ei sang â dillad unigryw, trugareddau diddorol a gemwaith cartref o bob cwr o’r byd. Sbwyliwch eich hun neu prynwch rywbeth i’ch anwyliaid.

Mae Carchar Biwmares ychydig yn llai lliwgar a llachar – yma cewch flas ar fywyd dan glo yn oes Fictoria. Yn ddi-newid, fwy neu lai, ers iddo gau ym 1878, mae ei goridorau tywyll a’i gelloedd bach yn creu naws iasol. Mae yna daith sain hefyd (wedi’i hadrodd o safbwynt Richard Rogers, y carcharor olaf i gael ei hongian yno) sy’n adrodd hanes hir ac arswydus y carchar.