
Meistri’r gorffennol: Castell, cromlech a ceir
Yn fyr: Mae De Ynys Môn yn drysor o dreftadaeth. Mae mwy i’w weld yma nag y gallwch ei wasgu i mewn i ddiwrnod.

Dechrau/gorffen: Biwmares/Niwbwrch
Pellter: tua 21 milltir/34km
Yn fyr: Mae De Ynys Môn yn drysor o dreftadaeth. Mae mwy i’w weld yma nag y gallwch ei wasgu i mewn i ddiwrnod, felly dewiswch o blith safleoedd amrywiol, o feddrodau cynhanesyddol i dechnoleg yr 20fed ganrif.
Beth bynnag aiff â’ch bryd, cofiwch ddechrau eich diwrnod gyda thaith o gwmpas tref hanesyddol Biwmares. Er na chafodd ei gwblhau fel ei gyd-Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghonwy a Chaernarfon, mae Castell Biwmares yn dal i fod yn un o’r enghreifftiau gorau sydd gennym o bensaernïaeth filwrol ganoloesol. Hon oedd y gaer Gymreig olaf i gael ei hadeiladu gan Edward I, ac mae ei ffos a’i chyfres gymesur o waliau consentrig yn enghraifft unigryw o arloesedd a dyfeisgarwch y 13eg ganrif.
Yr ochr arall i’r lôn fe welwch Lys Biwmares. Yn gweinyddu cyfiawnder ers dros 400 mlynedd, mae’n un o lysoedd hynaf gwledydd Prydain ac yn cynnig cip ar hanes cyfreithiol yr ynys.
Yna, cerddwch yn ôl traed cyn-ymwelwyr â’r llys ar eich ffordd i Garchar Biwmares. Crwydrwch y cynteddau cul a’r celloedd tywyll am flas ar fywyd yr ochr anghywir i’r gyfraith yn ystod y 1800au. Yr olwyn draed gosb hon yw’r unig enghraifft o’r fath yng ngwledydd Prydain.
O Fiwmares, dilynwch yr A454 i’r de-orllewin i Borthaethwy a Threftadaeth Menai. Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Thomas Telford, mae’r amgueddfa’n adrodd stori’r ddwy bont sy’n cysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru drwy amrywiaeth o arddangosfeydd, arteffactau a theithiau tywys diddorol.

Parhewch ar eich taith ar hyd yr arfordir i Blas Newydd ger Llanfairpwllgwyngyll, plasty gwledig godidog dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar lannau Afon Menai sydd â hanes sy’n estyn yn ôl i oes y Tuduriaid. Y tu mewn fe welwch gasgliad trawiadol o waith celf (gan gynnwys un o furluniau mwya’r DU gan Rex Whistler), ac yn yr awyr agored mae tiroedd trawiadol a gerddi gwych sy’n gartref i goed egsotig, dolydd blodau gwyllt a rhododendronau lliwgar.
Cewch flas ar hanes mwyaf hynafol Môn wrth i chi deithio ar hyd yr A4080 tua Brynsiencyn.
Yn gyntaf, ewch allan o’ch ffordd ryw ychydig, i’r gogledd o’r ffordd dosbarth A, i Fryn Celli Ddu, beddrod siambrog Neolithig trawiadol o dan dwmpath pridd sy’n mesur 26m mewn diamedr (mae yna le parcio). Y tu mewn, mae coridorau’n arwain at siambr lle mae gwaith cloddio wedi datgelu arteffactau, gan gynnwys pennau saethau fflint, gleiniau ac esgyrn dynol. Mae’r beddrod wedi’i osod fel bod y wawr yn goleuo’r siambr ganolog unwaith y flwyddyn ar fore Alban Hefin (neu hirddydd haf) – sy’n dyst i sgiliau a dealltwriaeth brodorion cynnar Ynys Môn (ac arwyddocâd seremonïol y safle).
Ar fryncyn bach oddi ar is-ffordd i’r gogledd-orllewin o Frynsiencyn mae Siambr Gladdu Bodowyr (mae yna le parcio). Mae’n un o henebion mwyaf dirgel Ynys Môn, gan nad yw’r beddrod o dan y capfaen crwn enfawr erioed wedi’i archwilio. Er bod y cyfrinachau ynghudd o hyd o dan y ddaear, mae’n enghraifft llawn naws o hanes hir Ynys Môn.
Ewch yn eich blaenau ar hyd yr A4080 i bentref Niwbwrch i gerdded yn ôl traed cyn-lywodraethwyr Cymru yn adfeilion Llys Rhosyr. Yn ganolfan weinyddol i’r arweinydd brodorol a Thywysog Gwynedd, Llywelyn Fawr, dyma’r unig lys canoloesol o’r fath i gael ei ddarganfod yng Nghymru. Parciwch yn y pentref a cherdded y 360m i’r safle.
Gorffennwch eich taith gyda hanes ychydig yn fwy modern yn Amgueddfa Trafnidiaeth ac Amaethyddol Tacla Taid. Gyda chasgliad o fwy na 100 o geir, beiciau modur, tractorau a cherbydau rhyfel clasurol, mae’n rhywle na ddylai neb sy’n hoff o foduro ei fethu.