Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Meistri’r gorffennol: Copr ar y copa

Dysgwch am hanes byrlymus Ynys Môn fel canolfan ddiwydiannol. Mae’n cynnwys mwyngloddiau, hanes morol a thirweddau unigryw wedi’u siapio gan filenia o gynhyrchu copr.

Tirwedd mwyngloddio copr lliwgar Mynydd Parys gyda melin wynt segur yn y pellter
Cychwyn o
Cemaes
Gorffen yn
Amlwch
Pellter
Tua 9 milltir

Dechreuwch eich dydd yng Nghemaes, pentref mwyaf gogleddol Cymru. Tra bod yr harbwr yma’n heddychlon heddiw, roedd yn borthladd prysur mor bell yn ôl â’r oesoedd canol (Porth Wygyr oedd ei enw ar y pryd). Yn fwy diweddar, allforiwyd symiau mawr o dsieni, clai, brics ac ocr o’r harbwr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Dysgwch bopeth am hyn – a mwy, yng Nghanolfan Dreftadaeth Cemaes ar y stryd fawr (mae yna le parcio am ddim gerllaw, yn Glasgoed Road). Ochr yn ochr â hanes morol a diwydiannol y pentref, mae’r ganolfan yn palu’n ddyfnach i’r gorffennol gyda straeon am grwydriaid Oes y Cerrig a Thywysogion Gwynedd, cyn-lywodraethwyr brodorol Cymru.

Dilynwch yr A5025 i’r dwyrain i Amlwch, tref glan môr dawel â gorffennol diwydiannol anhygoel. Mae copr wedi cael ei gloddio ym Mynydd Parys gerllaw ers yr Oes Efydd, ond daeth anterth y diwydiant yn y 18fed a’r 19eg ganrif – hwn oedd gwaith copr mwya’r byd, ac fe drawsnewidiodd bentref pysgota bach Amlwch yn ganolfan brysur o ddiwydiant.

I grwydro ymhellach fyth, ewch i’r de am ambell i filltir ar hyd y B5111 i Fynydd Parys ei hun (mae yna faes parcio oddi ar y ffordd). Yn gwisgo creithiau milenia o waith copr, mae’n lloerlun arallfydol o holltau a chafnau coch, oren, pinc a phorffor, wedi’u lliwio gan ddyddodion mwynol gwerthfawr y tir.

Am y profiad ymdrochol llawn, dilynwch y llwybr cylchol 5 milltir/8km o gwmpas y mynydd. Yn ogystal â’r dirwedd unigryw, fe welwch adfeilion hen adeiladau’r gwaith a golygfeydd ysgubol gwych o arfordir a chefn gwlad Ynys Môn.