
Y clogwyni a'r copaon
Mynnwch gip craff ar yr arfordir a mwynhau mynydda ar ddiwrnod cyffrous yng ngorllewin Ynys Môn.

Treuliwch y bore yn dod i nabod dyfroedd a glannau’r ynys ar drip arfordira hanner diwrnod gydag Anglesey Adventures. Gan ddechrau o borth prydferth Dafarch ger Caergybi, bydd yr antur acwatig arbennig hon yn eich herio i ddringo dros greigiau, darganfod cildraethau cudd a neidio o uchder i dwrw’r tonnau islaw.
Mae Arfordira, un o’r gweithgareddau awyr agored sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, yn cynnig golwg unigryw ar amgylchedd naturiol Ynys Môn, gan gyfuno eiliadau o lonyddwch â neidio heriol a dringfeydd dramatig.
Sychwch, a dilynwch yr is-ffordd am ryw filltir i Gaergybi.

Yn ôl am yr arfordir ar ôl cinio. Dilynwch Ffordd Ynys Lawd allan o’r dref a stopiwch yn y maes parcio ger Gwarchodfa Tŵr Elin yr RSPB (lleoliad what3words.com: warmers.claps.doghouse). Yma fe welwch fan cychwyn/gorffen llwybr cylchol Mynydd Tŵr. Yn tua 5 milltir/8km o hyd ac yn cymryd tua 2.5 awr i’w gwblhau, mae’r llwybr hamddenol hwn yn ymlwybro ar hyd yr arfordir ac o gwmpas llethrau Mynydd Tŵr, copa uchaf yr ynys (220m).