Mae Eglwys Llanbadrig yn lle ysbrydol. Os ydych chi’n siarad Cymraeg neu’n deall ychydig o’r iaith, byddwch yn deall ei bod wedi’i henwi ar ôl ymwelydd nodedig, San Padrig, nawddsant Iwerddon.
Yn ôl y chwedl, drylliwyd llong Padrig yma yn OC440. Goroesodd mewn ogof â ffynnon dŵr croyw cyn sefydlu’r eglwys i fynegi ei ddiolch. Dyma’r addoldy Cristnogol hynaf yng Nghymru – dechreuodd ei oes fel strwythur pren cyn cael ei ailadeiladu â charreg yn y 14eg ganrif. Ac nid dyna ddiwedd y stori. Yn anarferol, ymgorfforwyd dyluniadau Islamaidd yn ystod gwaith adnewyddu yn y 19eg ganrif.
Yn sefyll uwchlaw’r lli yn un o lecynnau prydferthaf yr ynys (ac mae hynny’n dipyn o ddweud), mae’r eglwys fechan hon yn morio mewn sancteiddrwydd a myfyrdod. Dywedodd un ymwelydd enwog, y Dalai Lama, mai dyma’r ‘lle mwyaf heddychlon ar wyneb Daear’. Trowch eich golwg at Ynys Badrig, lle daeth llong Padrig at ei diwedd, yn ôl y sôn, ac fe deimlwch gysylltiad gwirioneddol â’r tir, y môr a threigl amser.
I gyrraedd yr eglwys, gadewch Gemaes a theithiwch tua’r dwyrain ar yr A5025, gan gymryd y troad cyntaf i’r chwith i is-ffordd sy’n mynd â chi o fewn milltir iddi. Mae maes parcio bychan ar y chwith.
Ar ôl ymweld â’r eglwys, dilynwch Lwybr Arfordir Ynys Môn tua’r dwyrain – mae’n ddarn arbennig o drawiadol o’r llwybr – a cherdded i Ddinas Gynfor, pwynt mwyaf gogleddol yr ynys sy’n gartref i gaer o Oes yr Haearn (mae’n 3 milltir/4.8km yna ac yn ôl – awr a hanner i ddwy awr ar droed, gan gerdded ling-di-long).
Ailymunwch â’r A5025 drwy Amlwch a Llanallgo ar gyfer Traeth Bychan, ychydig oddi ar y ffordd dosbarth A, ryw filltir i’r de o Foelfre.