Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Croeso i Môn

Croeso

Mae mwy i Ynys Môn nag a welwch ar yr wyneb. Po fwyaf a chwiliwch, mwyaf a ffeindiwch.

Rydym yn ynys fechan â phersonoliaeth fawr. Ynys go iawn hefyd, nid cangen o Gymru, gyda’n hunaniaeth, ein hawyrgylch, ein diwylliant a’n hysbryd cymunedol ein hun.

Mae profiadau di-ben-draw i’w mwynhau yma, mwy nag y mae ein maint yn ei awgrymu. Dyna bwrpas y wefan hon. Mae wedi’i dylunio i fynd â chi ar daith (tua 50 taith, a dweud y gwir) i bob twll a chornel o’r ynys.