Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Anglesey - Beaumaris - Castle and high street-006

Trefi

Mae pump tref ar Ynys Môn.

Wrth feddwl am Ynys Môn, mae’n debyg y byddwch yn dychmygu ein morlin arbennig, ond os mentrwch chi ychydig ymhellach, fe ddewch o hyd i drefi a phentrefi hardd sy’n werth ymweld â nhw.

Efallai bod Caergybi’n fwyaf adnabyddus am fod yn un o borthladdoedd prysuraf y Deyrnas Unedig lle mae llongau’n croesi i Iwerddon, ond mae’n gartref hefyd i Barc Gwledig y Morglawdd, sy’n lle delfrydol i wylio adar a gweld bywyd gwyllt. Os oes gennych ddiddordeb mewn hanes a chelf ewch i Langefni, tref y cyfeiri ati’n aml fel canolfan ddiwylliannol Ynys Môn. Neu gallwch ymweld â’r Deyrnas Gopr a’r hen harbwr yn nhref dawel Amlwch.

Ar lannau’r Fenai mae tref hardd Porthaethwy, sy’n gartref i ddwy bont drawiadol, Pont Menai gan Thomas Telford a Phont Britannia gan Robert Stephenson. Yn y dref mae nifer o dafarndai a bwytai gwych, ac os ewch chi am dro ar hyd y Rhodfa Felgaidd at eglwys Sant Tysilio fe welwch olygfeydd godidog o’r Afon Menai.

Ond os yw’r arfordir yn eich denu, anelwch am Fiwmares. Mae hon yn dref glan môr arbennig lle gallwch gerdded yn hamddenol ar lan y dŵr ac i lawr y pier sydd wedi ei adnewyddu’n ddiweddar, gyda golygfeydd o Eryri yn y pellter, neu gallwch grwydro ar hyd y strydoedd braf gyda’u bythynnod lliwgar hardd.

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau