Erbyn hyn, wedi ei adfer gan Gyfeillion Swtan, mae'n amgenach lawer na rhyw amgueddfa werin fechan, hen ffasiwn. Mae'n cynrychioli ffordd o fyw caled gwerinwyr ym Môn a hynny ddim ond can mlynedd yn ôl.
Mae cefnogwyr a chyfeillion prosiect Swtan, gyda chymorth cronfa Ewropeaidd, wrth droi'r cloc yn ôl i 1910 gyda chelfi, ffabrigau, llestri, padelli a darluniau wedi sicrhau fod sylw i fanylion wedi bod yn flaenoriaeth. Felly, pan gyrhaeddwch yno a mynd i fewn, allwch chi ddim ond dychmygu sut y byddai teulu bach yn gallu goroesi heb ddŵr, tŷ bach na llofftydd ac yn byw ar friwsion prin ychydig anifeiliaid, cae bychan a gardd berlysiau. Roeddynt yn gwneud, atgyweirio, golchi, coginio a magu anifeiliaid - y cwbl gyda llaw.
Yr hyn wynebodd yr adnewyddwyr ar y cychwyn oedd to tyddyn wedi disgyn, gan fod y prif drawst, - hen fast hwylio - wedi pydru. Yn fuan iawn, cydiodd yr her yn nychymyg ac egni'r bobl leol, ac adfer ei gyflawni.
Y tu allan, fe fyddwch yn darganfod rhai o hen offer amaethu a physgota - yr angenrheidiau lleiaf posibl bywyd syml, yn ddibynnol ar ddim mwy nag a allai natur ei ddarparu.

