Siambr gladdu Neolithig wedi’i hailadeiladu’n rhannol, sy’n enwog am ei cherrig addurnedig
Wedi ei leoli ar arfordir de orllewin Môn, wedi ei amgylchynu â golygfeydd eang - bryniau braf gwyrddion, mynyddoedd Eryri yn y pellter, a môr disglair ac anferth Iwerddon - rydych yn naturiol yn llawn syfrdan, yr emosiwn y mae Geiriaduron Rhydychen yn ei ddiffinio fel "cymysgedd o syndod ac ofn".
Siambr gladdu Neolithig yw Barclodiad y Gawres. Fe'i lleolir ar benrhyn bychan rhwng Porth Trecastell a Phorth Nobla ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, ychydig i'r de o bentref Rhosneigr. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio iddi.
Barclodiad y Gawres yw'r siambr gladdu fwyaf yng Nghymru. Mae'n esiampl o'r beddau cyntedd ar ffurf groes, ar yr un cynllun a nifer o siambrau claddu yn Iwerddon megis Newgrange. Nodwedd ddiddorol arall yw bod nifer o'r meini Neolithig wedi eu haddurno â llinellau igam-ogam. Ychydig iawn o gerrig wedi'u cerfio fel hyn sydd ar gael yng Nghymru: Bryn Celli Ddu, Llanfechell, Cae Dyni yn Llŷn a Garn Wen a Garn Turne ym Mhenfro.[1]
Bu cloddio archeolegol yma yn 1952-3. Un darganfyddiad oedd bod olion sy'n dangos i dân gael ei gynnau yn y rhan ganol, a chawl wedi ei wneud o amrywiaeth ryfedd o anifeiliaid a physgod wedi ei dywallt trosto. Ymddengys fod hyn yn rhan o ryw ddefod.
Mae'r siambr wreiddiol wedi ei hamgylchynu gan domen goncrit er mwyn ei gwarchod. Mae dan ofal Cadw ond er mwyn ymweld â thu yn y domen rhaid cael agoriad (Wayside shop yn Llanfaelog 01407 810 153.)
Am fanylion pellach gweler safle we CADW.