Mae wedi’i ogwyddo o’r gogledd ddwyrain i’r de orllewin ac mae’n ymestyn am tua 15 milltir o Drwyn Penmon i Abermenai. Mae’n cwmpasu cynefinoedd niferus, sy’n amrywio o riffiau morol dynamig i draethau tywodlyd eang a chlogwyni tal yr arfordir.
Mae’r ardal yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Menai a Chonwy. Mae’r dynodiad hwn yn un sy’n galluogi gwarchod mathau arbennig o gynefinoedd a rhywogaethau (ac eithrio adar) yr ystyrir sydd fwyaf angen eu gwarchod ar lefel Ewropeaidd. Mae amodau amgylcheddol Afon Menai’n anarferol, am ei bod yn cael ei gwarchod rhag effeithiau’r tonnau ond yn ddarostyngedig i rediad y llanw cyflym a all gyrraedd cyflymder o 4 metr yr eiliad yn ystod llanw mawr. Mae hefyd llawer iawn o ronynnau mewn daliant yn y dŵr sy’n creu amodau delfrydol i hidlwyr bwyd.
Tra-arglwyddiaethir ar lannau mewnol y Culfor gan fwydod gwrychog fel Spio filicornis. Mae’r riffiau calchfaen yn gartref i nifer o rywogaethau sy’n tyllu creigiau gan gynnwys y sbyngau, pidogau a mes-lyngyr sy’n tyllu creigiau. Ceir cytrefi mawr o grystiau môr yma, ynghyd â phreswylwyr eraill y riffiau fel y cranc heglog sgorpion, y cranc llygatgoch sy’n nofio, llyfrothen, iâr fôr a llysywen fôr. Mae Culfor Menai yn gartref i amrywiaeth eang o adar y glannau a rhydwyr, fel y crëyr bach, pioden y môr, y gylfinir a’r pibydd coesgoch.
Yn ystod rhai gaeafau gwelwyd heidiau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol o’r fôr-hwyaden ddu yn casglu er mwyn bwydo ar y poblogaethau toreithiog o gregyn deuddarn. Ceir gwellt y gamlas bach, Zostera noltii, sy’n brin yn genedlaethol mewn ardal rhwng Biwmares a Lleiniog. Os ydych yn lwcus efallai y cewch gipolwg ar forlo neu lamhidydd yn hela ac yn chwarae yng ngherrynt y llanw.
Tirwedd
Afon Menai yw’r culfor sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Gwynedd. Cysylltir â’r tir mawr gan Bont Grog Thomas Telford a Phont Britannia Robert Stephenson. Mae’r culfor yn amrywio yn ei led o tua 300m i dri chwarter milltir. Gelwir y rhanbarth canolog rhwng y ddwy bont yn Bwll Ceris. Mae hwn yn amgylchedd unigryw gyda llif llanw cryf sy’n cildroi, cerrynt cyflym a throbyllau sy’n chwyrlio. Mae llawer o ynysoedd bach alltraeth hefyd yn y culfor y gellir eu gweld yn glir o’r pontydd. O ochr Ynys Môn mae golygfeydd hardd o Eryri a chadwyn o fynyddoedd y Carneddau, Bae Conwy a thref Bangor ac i lawr am Gaernarfon.
Ffawt ddaearegol fawr yw’r Culfor sy’n ffurfio trawsnewidiad rhwng Môn a chreigiau eraill o’r un oed ond, mae’n ymddangos, heb unrhyw gysylltiad â’i gilydd yng Ngogledd Cymru.
Cafodd ei gerfio gan y rhew. Ffurfiwyd y nodwedd ddigamsyniol hon gan rewlifoedd o Eryri a gan lif rhew Môr Iwerddon a orchuddiodd Ynys Môn yn ystod Oes yr Ia diwethaf tua 22,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r Culfor hefyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig morol (ACA) gydag amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd gan gynnwys cilfachau môr ac aberoedd, traethellau lleidiog a thywodlyd, morlynnoedd, morfa heli, traethau graean bras, clogwyni a riffiau carreg galch tanddwr.
Mae uchafbwyntiau arbennig ar hyd glannau’r Afon Menai yn cynnwys twyni tywod Cwningar Niwbwrch, Pwll Ceris gyda chefnlen o Bont Menai Telford a’r Carneddau, a Biwmares, Penmon a Thrwyn Du.