Mae ar gyrion pentref Llanbedrgoch ac yn warchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Mae hefyd wedi ei chynnwys yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Corsydd Calchog Môn. Dyffryn o laid yw Cors Goch ac yn gorstir sy’n gyfoethog mewn calch. Mae yna haen o fawn sy’n ddyfnach na 3m mewn rhai mannau. Mae’r darn gorllewinol ble mae Llyn Cadarn ychydig yn wlypach. Mae’n cynnal nifer o blanhigion gwlypdir prin, ac mae gwelyau hesg eang yma yn ogystal â llecynnau o rostir asidig. Mae yma gasgliad rhyfeddol o degeirianau gwyllt, gan gynnwys tegeirian y waub, tegeirian y gors gogleddol, y tegeirian pêr a tegeirian y gors culddail sy’n brin yn genedlaethol. Planhigion prin eraill yw dant y llew’r gors, dyfrllys y gors galchog sy’n brin yn genedlaethol a rhawn yr ebol lleiaf mewn llecynnau o ddŵr agored. Mae adar y gors ac adar dŵr yn ymweld â’r warchodfa gan gynnwys rhai sy’n tynnu at y gwelyau hesg fel y troellwr bach, telor yr hesg a bras y cyrs. Mae’r ardal yn cynnig llety i gyfoeth o bryfetach gan gynnwys y copor bach, gweirlöyn bach y waun a’r glöyn byw, britheg berlog fach. Yn ychwanegol at hyn, cofnodwyd dros 250 o rywogaethau o wyfynod a hefyd nifer o wahanol fathau o weision y neidr a mursennod. Mae cyflenwad y safle o amffibiaid ac ymlusgiaid yn cynnwys y fadfall gribog a gwiberod. Mae’n well mynd at y safle o’r dwyrain ble mae’n bosibl parcio wrth ochr y ffordd.
Mae llwybr troed hefyd ar hyd ochr ddeheuol y gors galchog a llwybr pren (sy’n rhannol dan y dŵr) sy’n hwyluso mynediad i’r mannau mwyaf trwchus o’r gors galchog.