
Lagwn Bae Cemlyn

Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw Bae Cemlyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Mae’n arbennig o enwog am y gytref fawr o fôr-wenoliaid sydd yma.
Mae’r rhain yn cynnwys y fôr-wennol gyffredin a môr-wennol y gogledd, ac un o boblogaethau magu mwyaf y Deyrnas Unedig o fôr-wenoliaid pigddu, sy’n cartrefu ar yr ynysoedd yn y lagŵn yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r fôr-wennol bigddu yn un o’r adar mudol sy’n cyrraedd Ynysoedd Prydain gyntaf a gellir eu gweld yn aml o amgylch yr arfordir o ddiwedd Mawrth. Maent yn rhywogaeth sydd â chyrhaeddiad pell, yn treulio’r gaeaf o amgylch arfordir Affrica a rhai hyd yn oed ymhellach yn hemisffer y de.
Maent hefyd yn hirhoedlog; dangosodd data o adar gafodd eu modrwyo eu bod yn gallu byw hyd at 30 mlynedd. Maent yn adar cymdeithasol, yn nythu gyda’i gilydd mewn cytrefi mawr yn aml ochr yn ochr â rhywogaethau eraill o fôr-wenoliaid.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cyflogi wardeniaid bob haf yng Nghemlyn i fonitro a diogelu’r cytrefi o fôr-wenoliaid. Mae’r môr-wenoliaid gwridog wedi nythu yn y gorffennol ar y warchodfa, a bu’n gartref i rai bridiau prin o bryd i’w gilydd - y fôr-wennol fraith, y telor pêr a phibydd Terek yn enghreifftiau nodedig.
Mae’r warchodfa yn llecyn da i wylio adar môr eraill fel sgiwennod a huganod, yn ogystal ag adar y glannau ac adar gwyllt. Mae hefyd yn fan da ar gyfer adar môr gan gynnwys y trochydd a’r gwyach gopog yn y bae yn y gaeaf.
Mae pioden y môr a’r cwtiad torchog yn bridio ar y gefnen graean bras, ac mae’r ardaloedd o brysgwydd a gwlypdir sydd o amgylch y warchodfa yn cynnal clochdar y cerrig, y llwydfron a thelor yr hesg sy’n nythu. Mae’r bae yn lleoliad da ar gyfer gwylio’r môr am famaliaid y môr fel y dolffin trwyn potel a’r morlo llwyd.
Mae’r warchodfa hefyd yn arddangos casgliad diddorol o blanhigion yr arfordir gan gynnwys yr ysgedd arfor, y gludlys arfor, betys arfor, pabi corniog melyn, seren y morfa, celyn y môr.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Bae Cemlyn
Mwynderau
- Parcio ar gael.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i gŵn.