Cerddwch ar hyd y cynteddau tywyll i weld y celloedd moel a digroeso a mannau cosbi. Ymwelwch a chell y condemniedig a phrofi tywyllwch y gell gosb.
Yn 1862 dienyddiwyd Richard Rowlands am lofruddio ei dad-yng-nghyfraith. Haerai Rowlands ei fod yn ddi-euog, ac yn ôl y traddodiad lleol fe felltithiodd y cloc yn nhŵr yr eglwys gyferbyn â'r grocbren.
Nid yw'r cloc wedi cadw at ei amser ers hynny.