Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Ynys môn - Biwmares

Cylchdaith Biwmares

Ynys môn - Biwmares

Disgrifiad o daith gylchol yn Biwmares, ar arfordir y dwyrain Ynys Môn.

Cychwyn o
Anhawster
Hawdd
Pellter
Tua 1.9 milltir

Taith gymedrol ydy hon o gwmpas tref lan môr hanesyddol Biwmares. Gan ddechrau wrth y Pier â’i olygfeydd urddasol dros y Fenai, mae’r daith hon yn mynd â chi i sawl un o uchafbwyntiau’r dref heibio hen fythynnod lliw pastel, siopau o safon a thafarnau hynafol.

Cyfarwyddiadau

Y pier at y Llys

Cerddwch i ben y pier a syllwch ar y golygfeydd; o’ch blaen, ceir mynyddoedd Eryri, ac i’r dde, ar y lan gyferbyn, ceir dinas Bangor. Ar y chwith i chi, gallwch weld Pen y Gogarth a Llandudno.

Ewch yn ôl i lawr y pier, gan sylwi ar y Simnai Restredig Gradd II ar y chwith, a theras crand Victoria Terrace ar y dde. Ar y Grîn, fe welwch gylch cerrig.

Croeswch y ffordd yn ofalus, ac ewch yn syth ymlaen i lawr y ffordd gul, gan anelu at y porth bwaog i gerddwyr o dan Neuadd y Dref.

Fe ddowch allan ar Stryd y Castell, lle cewch bob math o siopau a bwytai. Fe welwch y Tudor Rose gyferbyn â chi.

Trowch i’r dde heibio Gwesty’r Bulkeley ac, ar y chwith, tafarn The Bulls Head. Pan gyrhaeddwch y sgwâr, ewch tua ochr dde’r Llys.

Y Llys i Borth Bulkeley

Croeswch y ffordd a cherddwch at y groesfan i gerddwyr. Croeswch yma a mynd i mewn i’r gerddi, ewch rownd llwybr y perimedr a rhyfeddwch wrth weld wal ddwyreiniol y castell.

Ewch allan o’r parc ac yn ôl rownd y Llys.

O’r sgwâr, croeswch y ffordd yn ofalus a cherddwch heibio siop anrhegion y castell.

Dilynwch y ffordd rownd i’r chwith. Cynhelir marchnad grefftwyr reolaidd o flaen y ganolfan gymunedol. Gyda’r eglwys Gatholig ar y dde, ewch ymlaen i fyny Rating Row.

Yn y gyffordd, trowch i’r dde, a dilynwch y ffordd i ben y bythynnod lliw pastel. Croeswch y ffordd ac ewch i lawr Stryd Stanley yn lle gwelwch adeiledd cerrig Porth Bulkeley yn y pen.

Porth Bulkeley i’r pier

Dilynwch y ffordd rownd i’r dde mor bell â Ffordd Meigan ar Ystâd Cae Brics, yna trowch ac ewch yn ôl.

Cyn y Porth, trowch i’r dde i lawr Stryd y Carchar.

Yn y gyffordd, ewch i’r chwith i lawr Stryd Newydd, ac i’r dde yn y pen, i lawr Steeple Lane.

Ewch drwy’r porth bwaog i mewn i fynwent Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas. Ewch o amgylch yr eglwys, allan o’r fynwent, yn ôl drwy’r porth bwaog, ac i’r chwith, gan fynd i lawr Steeple Lane.

Ar y dde, ceir wal berimedr llys hanesyddol y dref. Ewch ymlaen i lawr Steeple Lane, trowch i’r dde i lawr Stryd y Capel, sy’n gul, ac yna i’r chwith i lawr Lôn Gadlys.

Trowch i’r chwith eto, heibio’r Liverpool Arms ar y chwith, a cherddwch ar hyd Stryd y Castell yn ôl i’r porth bwaog o dan neuadd y dref.

Gyferbyn â’r neuadd, ceir Stryd yr Eglwys yn lle mae’r George and Dragon, a Sgwâr y Farchnad.

Cerddwch yn ôl drwy’r porth bwaog i fan cychwyn eich taith wrth y pier.

Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon

Safleoedd dethol

  • Agorwyd y pier ym 1846 ac, yn dilyn storm, fe’i hadeiladwyd a’i hymestyn i 170m ym 1872. Am flynyddoedd lawer, byddai’n gwasanaethu stemars yn ôl a blaen o Landudno a Lerpwl. Yn 2011, cafodd ei adnewyddu fel rhan o brosiect £2m mawr.
  • A hwnnw heb ei gorffen, y bwriad oedd mai’r Castell hwn fyddai’r un mwyaf, a mwyaf datblygedig yn ei gyf­nod. Wedi’i adeiladu gan Edward I rhwng 1295 a 1330, mae’n cynnwys amddiffynfa o bedwar llinell gonsentrig gymesur. Dyma un o ddim ond pump o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru
  • Er ei olwg hynafol, fe adeiladwyd y Cylch Cerrig ar y Grîn ym 1995 i nodweddu Eisteddfod Gadeiriol Môn a gynhaliwyd yno’r flwyddyn wedyn.
  • Ar ôl ei gwblhau ym 1948, datblygiad gwobrwyedig Ystâd Cae Brics o 30 o dai, oedd meincnod tai fforddiadwy o safon y cyfnod ar ôl y rhyfel. Ymwelodd Aneurin Bevan â safle’r gwaith adeiladu dair gwaith.
  • Roedd adeilad presennol Neuadd y Dref wedi cymryd lle neuadd o oes Elisabeth ym 1785. Dywedwyd unwaith mai ei hystafell fawr ar y llawr cyntaf oedd “the most splendid ballroom in North Wales”.
  • Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas yn dyddio o 1330. Mae corff yr eglwys yn wreiddiol, ond cafodd sawl rhan ei hailfodelu dros y blynyddoedd. Honnid bod yr arch garreg yn y Portsh yn perthyn i’r Dywysoges Siwan (a fu farw ym 1237), sef gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru.
  • Yn dyddio o’r 1480s, y ‘Tudor Rose’ ydy un o’r adeiladau â ffrâm goed hynaf ym Mhrydain. Mae’n ein hatgoffa o sut y byddai’r rhan fwyaf o Stryd y Castell ar un adeg.
  • Adeiledd trawiadol Porth Ystâd Bulkeley oedd y fynedfa ar un adeg i ystâd Baron Hill, a sefydlwyd ym 1618.
  • A hwnnw bellach yn amgueddfa, adeiladwyd y Llys ym 1614, a dyma’r llys hynaf yng Nghymru.
  • Fe gafodd yr hen garchar ei drawsnewid yn amgueddfa, ac mae’n rhoi mewnwelediad diddorol iawn i fywyd carchar yn oes Fictoria. Wedi’i adeiladu ym 1829 a’i ymestyn ym 1867.

Mapiau llwybr

Mae mapiau llwybrau digidol yn seiliedig ar GPS ar gael isod.

Darganfyddwch sut i ddefnyddio ffeiliau GPX a KML - yn agor mewn tab newydd.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Man cychwyn

Mwynderau

  • Caffi.
  • Parcio ar gael.
  • Lluniaeth
  • Bwyty
  • Siop
  • Toiledau

gerllaw...