
Cylchdaith Brynsiencyn

Disgrifiad o gylchdaith ger Brynsiencyn, Ynys Môn.
Pellter: 9.7 cilometr / 6.02 milltir
Anhawster: Cymedrol
Mae pobl wedi gadael eu hôl ar y gornel hon o Ynys Môn ers miloedd o flynyddoedd: o aneddiadau o Oes y Cerrig, i ffoleddau Fictoraidd. Llwybr hawdd ar draws tir fferm a’r traethlin, ond gall y pellter fod yn her i rai.
Cyfarwyddiadau
Brynsiencyn i Gae-Aur
Trowch i’r dde allan o’r maes parcio a dilynwch y lôn tuag at Hen Eglwys Sant Nidan. Ceir tomen gladdu o’r Oes Efydd mewn cae ar y dde y gallwch ei gweld drwy giât fferm.
Ymhellach i lawr y lôn, gyferbyn â’r fynedfa i fferm, trowch i’r dde dros gamfa gerrig i’r llwybr cyhoeddus ar draws cae, sy’n dilyn y Llwybr Arfordirol.
(Mae adfeilion Hen Eglwys Sant Nidan ymhellach i lawr y lôn ar dir preifat).
Yny cae, ewch tua ei gornel uchaf ar y dde,ac ewch drwy’r giât i mewn i’r coed, sef Planhigfa Cae-aur.
Cerddwch drwy’r coed gan ddilyn llwybr ag arwyddion at giât mochyn sy’n mynd â chi i gae arall.
Cae-aur i Bier Tal-y-Foel
Gyda ffin y cae ar y chwith i chi, cerddwch ar draws y ddau gae nesaf, yn gyfochrog â’r Fenai.
Cerddwch yn syth ar draws y cae nesaf, croeswch drac glaswellt a phasiwch o flaen Plas Trefarthen, sef ty Fictoraidd rhestredig.
Yn y cae nesaf, ewch tuag at y coed uchel yn y gornel uchaf ar y chwith.Ewch drwy giât fochyn, a lawr cyfres o risiau i’r lan.
Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y traeth am dipyn cyn ymuno â’r ffordd.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd gan basio tri atyniad i ymwelwyr: mae Halen Môn a Sŵ Môr Môn wrth ymyl ei gilydd, ac wedyn ceir Parc Fferm y Foel. (Gallwch gymryd yr ail lwybr sy’n mynd i’r dde ar ôl y sw fel llwybr amgen byrrach).
Pier Tal-Y-Foel i Cerrig Y Barcud
Cerddwch ymlaen ar hyd y ffordd heibio Pier Tal-y-Foel, yna ewch ar hyd y traeth nes y byddwch bron gyferbyn â Chastell Caernarfon.
Cymrwch y stepiau ag arwydd y Llwybr Arfordirol ac ewch oddi ar y traeth.
Dilynwch ffin ochr chwith y cae i fyny dau gae nes y dowch at gamfa a lôn ger Fferm Cae Mawr.
Trowch i’r dde, a dilynwch y trac drwy fuarth y fferm.
Cadwch i’r dde o flaen yr adeilad fferm tuag at gamfa.
Gan gadw’r gwrych ar y chwith i chi, cerddwch drwy ddau gae. Yna trowch i’r dde drwy giât a dilynwch ymyl y cae at gafn carreg.
Trowch i’r chwith wrth y cafn hwn i mewn i’r cae nesaf, gyda’r gwrych erbyn hyn ar y dde i chi.
Ewch yn syth ar draws y cae hwn im ewn i’r cae mawr nesaf, a dilynwch y ffens ar y dde, i lawr i Gerrig y Barcud. Ewch drwy ddwy giât i lôn a throwch i’r chwith.
Cerrig Y Barcud i Brynsiencyn
Dilynwch y lôn heibio fferm, ynghyd â lôn bengaead (‘dead-end’) ar y chwith.
Yn union cyn Fferm Fron Heulog, trowch i’r dde i lawr lôn arall gyferbyn â chilbyst carreg.
Ewch i lawr y lôn hon â choed ar y naill ochr iddi.
Ar y gornel lle mae’r lôn yn mynd i’r chwith, mae’r llwybr cyhoeddus yn mynd i’r dde drwy’r giât, ac yna i’r chwith dros gamfa garreg i gae mawr.
Dilynwch y gwrych ar y chwith i chi.
Croeswch drac mynediad newydd ac ewch ymlaen i lawr ochr chwith y cae at giât mochyn sy’n arwain at lwybr coediog i lawr i’r trac mynediad i Fferm Tyddyn Albert.
Croeswch y trac ac ewch drwy’r giât mochyn. Cadwch i’r dde o amgylch cefn y ty.
Ewch drwy’r giât mochyn,trowch i’r chwith a dilynwch y gwrych at y giât nesaf.
Cadwch ar ochr dde dau gae bach nes y dowch allan ar lôn.
Trowch i’r chwith,ac yna bron yn union i’r dde. Mae’r ffordd hon yn eich arwain i gefn Brynsiencyn.
Ar ôl ymuno â’r brif ffordd, trowch i’r dde,ac ewch drwy’r pentref, ac yna byddwch gyferbyn â’r maes parcio, sef man cychwyn eich taith.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a diddordebau
- Mae ardal Brynsiencyn yn gyfoeth o safleoedd cynhanesyddol, a cheir tystio-laeth y bu pobl yn byw yma ers miloedd o flynyddoedd. Ceir Castell Bryngwyn gerllaw, lle daethpwyd o hyd i weddillion o’r cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd.
- Mae Hen Eglwys Sant Nidan a Phlas Llanidan ychydig oddi ar y llwybr. Sefy-dlwyd yr eglwys yn y 7fed ganrif gan Sant Nidan, ond mae’r rhannau hynaf sydd ar ôl yn dyddio o’r 14eg ganrif. Daeth pwy do hyd i gist a oedd yn cynnwys darnau o asgwrn wedi’u claddu o dan yr allor. Mae’r tu allan i Blas Llanidan yn dyddio o’r cyfnod Sioraidd, ond mae’n cynnwys adeileddau hynach o lawer, fel selerau canoloesol er enghraifft. Ceir yno ardd fawr, hardd, â wal o’i chwmpas. Mae’r eglwys a’r gerddi ar agor i’r cyhoedd ambell ddiwrnod yn ystod yr haf
- Bu Pier Tal-y-Foel unwaith yn fan croesi ar gyfer y fferi i Gaernarfon.
- Ceir pedwar atyniad i ymwelwyr wrth ymyl ei gilydd: Halen Môn, Sw Môr Môn a Fferm Parc y Foel, ar y llwybr, a Chanolfan Farchogaeth Ynys Môn, ychydig yn nes ymlaen i lawr yr arfordir
Bywyd Gwyllt
Mae traethlin llanw y Fenai yn lle ardderchog i wylio adar. Mae’n gynefin perffaith i biod môr, pibyddion y tywod, cwtiaid y traeth, pibyddion coesgoch, pibyddion coes wyrdd, pibyddion y mawn a sawl rhywogaeth arall o adar hirgoes. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus hefyd i weld gweilch y pysgod yn hela yn yr ardal hon.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae bws 42 yn mynd o Langefni i Fangor drwy Frynsiencyn, ac yn stopio yn y maes parcio, sef man cychwyn y daith.
Lluniaeth
- Ceir caffi yn y maes parcio yn lle byddwch yn cychwyn, ynghyd â siop cyfleustra a thafarn yn y pentref. Mae caffis Halen Môn, Sw Môr Môn a Pharc Fferm y Foel ar agor yn dymhorol.
- Ceir siop fferm a chaffi ar yr A4080, ychydig cyn cyrraedd Brynsiencyn.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Caffi.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Parcio ar gael.
- Toiledau