Taith gymedrol ond anodd oherwydd y traciau nad oes fawr o ddefnydd arnynt, sy’n gallu bod yn serth, yn wlyb, ac yn llawn tyfiant. Ond mae’r golygfeydd o fryngaer Bwrdd Arthur wrth ddychwelyd yn ei gwneud hi’n werth y drafferth.
Cyfarwyddiadau
Maes parcio traeth Llanddona i Bwrdd Arthur
O faes parcio’r traeth, croeswch y ffordd tuag at y môr, yna trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y traeth. Yn y pen draw, ceir pont droed dros nant.
Dilynwch y Llwybr Arfordirol ar hyd ymyl y traeth ac i fyny ail set o stepiau at giât mochyn. Trowch i’r chwith, a cherddwch ar hyd y gwrych drwy ddau gae at y giât mochyn nesaf.
Dilynwch y llwybr glaswelltog i fyny’r allt tuag at ddau dy a giât mochyn arall. Parhewch tua’r dde i fyny’r allt a thrwy’r giât mochyn wrth ymyl y polyn telegraff.
Trowch i’r dde i fyny’r trac i gyfeiriad y tir. Yn lle mae’r trac yn lefelu ar y tro ar yr ochr dde, ewch i’r chwith drwy’r giât mochyn, a dilynwch y llwybr newydd dros y bont droed fechan at giât mochyn arall.
Dilynwch y cyfeirbost melyn ar draws y cae serth at y giât fetel yn y gornel.
Dilynwch y llwybr drwy’r coed at giât mochyn, a throwch i’r dde i fyny rhes o stepiau at groesffordd yn y llwybr. Ewch yn syth ymlaen ar draws y trac, gan adael y Llwybr Arfordirol, ac ewch i fyny drwy’r eithin at giât mochyn arall.
Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y cae ac wedyn drwy giât mochyn i le mae’n ymuno â’r ffordd wrth giât bren.
Yma, cymrwch y gwyriad byr i ben Bwrdd Arthur: dilynwch y llwybr y tu mewn i’r ffens sy’n gyfochrog â’r ffordd. Yn fuan wedyn, mae llwybr clir yn eich arwain i fyny i’r chwith, ac yn dilyn trywydd i gam ogam i fyny at y piler triongli. Ewch yn ôl wedyn at y giât bren.
Bwrdd Arthur i Ben Rallt
Trowch i’r dde i fynd ar y ffordd, a chymrwch y lôn gyntaf i’r dde o’r enw Lôn Goch. Ger carreg wen â Castell Cottage wedi’i nodi arni, gadewch y ffordd ac ewch yn syth ymlaen i lawr y trac.
Noder: o’r fan hon ymlaen, gall sawl un o’r traciau fod yn wlyb, yn fwdlyd, ac efallai’n llawn tyfiant. Llwybr byrrach a haws fyddai dilyn Lôn Goch i lawr at y môr ac yn ôl i’r man cychwyn yn y maes parcio.
Yn lle mae’r trac yn troi’n sydyn i’r chwith, ewch yn syth ymlaen i lawr y llwybr rhwng y gwrychoedd. Ewch i lawr stepiau yn y pen draw, y tu allan i Tros yr Afon.
Trowch i’r chwith i fyny dreif concrit serth, ac ewch ymlaen i fyny’r trac mwdlyd rhwng y gwrychoedd.
Ewch i fyny’r allt, ac wrth y ffens weiren, ewch i’r dde ar lwybr graean mwy gwastad. Croeswch y rhyd bas tuag at adeiladau fferm. Cadwch i’r dde, gan gadw’r adeiladau ar y chwith i chi, dilynwch y llwybr at giât, a throwch i’r dde ar hyd y ffordd ym Mhen Rallt.
Pen Rallt i faes parcio’r traeth
Cerddwch heibio Hafod y Rhug ar y dde, a car ôl tua 100m ewch i’r chwith wrth arwyddy llwybr i lawr trac dwbl. Pan fydd y trachwn yn troi i’r dde ac y byddwch yn gweld y tai, trowch i’r chwith ar y glaswellt, ac ewch at y giât mochyn gerllaw.
Mae’r llwybr yngwahanu yn y fan hon, felly cymrwch yr un sy’n mynd i fyny’r allt gan fod hwnnw’n llai mwdlyd.
Ar ôl y giât mochyn drwy’r eithin uwchben y tŷ gwyn, dilynwch y ffens fetel ger y coed i ddod allan wrth giatiau’r tŷ gwyn, sef Cae Maes Mawr.
Ewch i’r chwith ar y ffordd ac yna’r holl ffordd i lawr i faes parcio’r traeth
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a diddordebau
- Mae patrwm datblygu damweiniol Llanddona yn deillio o dyddynnod a sefydlwyd ar dir gwastraff o dan system hawliau sgwatwyr y Tŷ Unnos. I’r dwyrain o’r pentref, ceir SoDdGA (SSSI) Gwarchodfa Natur Comin Llanddona, a cheir sawl darn arall o rostir comin o gwmpas yr ardal.
- Bryn calchfaen gwastad, serth ydy Bwrdd Arthur, neu Din Sylwy, sy’n mynd i fyny 164m, a cheir gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn ar ei gopa. Fe gafodd y wal gerrig sych o amgylch ei berimedr, sy’n 2m o drwch, ac sy’n amgáu 7.5ha, ei hadeiladu ar frys i wrthsefyll ymosodiad gan y Rhufeiniaid.
- Mae cofnodion o Eglwys Sant Mihangel, ar lethr dwyreiniol Bwrdd Arthur, yn dyddio’n ôl mor bell â 1254, ond mae’r eglwys bresennol yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif.
- Ar lanw isel, gwelir cored bysgod ganoloesol mewn cyflwr da, byddai’n dal pysgod wrth i’r llanw fynd allan.
- Mae Eglwys Sant Dona, sef tarddiad enw’r pentref, wedi’i chysegru i Sant Dona a oedd yn byw ar y lan gerllaw. Mae’r adeilad presennol yn Fictoraidd, ond codwyd yr eglwys gyntaf ar y safle yn 610AD.
Bywyd gwyllt
Ar lanw isel, mae’r 10km² o fwd tywod agored, graean bras a chlogfeini yn Nhraeth Coch yn croesawu gylfinirod, piod y môr, pibyddion coesgoch, cwtiaid, pibyddion y traeth, a phibyddion y mawn, ac ym misoedd y gaeaf, gwyddau duon.
Mae cynefin glaswelltir calchaidd Bwrdd Arthur yn gartref i eithin mân, y cor-rosyn cyffredin, yr eurinllys gwelw, tegeirian y broga, y gorfanhadlen eiddew, a’r cor-rosyn lledlwyd, sy’n brin ar hyd a lled y wlad.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bws Rhif 58L o Fiwmares yn stopio 1km o ddechrau’r daith gerdded hon.
Lluniaeth
Ym man cychwyn y daith, ym maes parcio’r traeth, ceir caffi tymhorol, yn ogystal â byrddau picnic, a thoiledau.
Nid oes unrhyw gaffis neu siopau yn Llanddona, ond gallwch gael bwyd yn nhafarn Yr Owain Glyndwr