Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Mynegbost yn dangos llwybr troed a simnai parc morglawdd

Cylchdaith Mynydd Twr

Mynegbost yn dangos llwybr troed a simnai parc morglawdd

Disgrifiad o daith gylchol ger Mynydd Twr, ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.

Pellter: 20.4 cilometr / 12.6 milltir

Anhawster: Heriol

Taith gyfareddol ar dirwedd garw: ardal sy’n gyfoeth o harddwch naturiol a hanes pobl. Lleoliad llawn clogwyni aruchel, cefn gwlad digyffwrdd, ac adeiladau hynafol. Serth, hir, yn dilyn ffyrdd mewn mannau, ac efallai’n gorslyd. 

Cyfarwyddiadau

Y Parc Gwledig i Ynys Lawd

Ewch o’r maes parcio ar hyd llwybr heibio’r llyn. Ymunwch â thrac ac ewch drwy giât mochyn i gae, i gyfeiriad y mynydd. Dilynwch lwybr caregog at Ynys Arw.

Gan adael Ynys Arw, dilynwch y trac i fyny ac i’r dde ar ôl cyrraedd y polyn telegraff. Ewch i’r chwith i fyny man serth a heibio sawl llecyn â wal o’i gwmpas, ac yna dechreuwch fynd i lawr.

Noder: mae llwybr yn mynd i’r chwith at gopa’r mynydd, ond mae’n serth, felly cymrwch ofal os ydych yn dewis ei gymryd. Mae’n lefelu ac yn rhwydd i’w ddilyn i lawr i’r pentir. Ar ôl cyrraedd Ynys Lawd, trowch i’r chwith i lawr y ffordd.

Llwybr byrrach: Dychwelyd i’r Parc Gwledig.

Mewn ychydig, trowch i’r chwith ar hyd llwybr arall sy’n gyfochrog â’r un blaenorol. Wrth agosáu at y mynydd, cadwch i’r dde, gan fynd o amgylch ei waelod. Dilynwch y waliau, ac mewn croesffordd yn y llwybrau, ewch yn syth ar draws at y lôn. Ewch i’r chwith wrth ymyl y tai. Mewn cyffordd ‘T’, trowch i’r chwith ac ewch i ben y lôn. Mae llwybr yn mynd i’r chwith, ac yna i’r dde, gan ddilyn ffens. Cerddwch i lawr rhywfaint o stepiau yn ôl i’r man cychwyn.

Ynys Lawd i Porth dafarch

Trowch i’r dde, oddi ar y brif ffordd, i lawr y stepiau at Dwr Elin a dilynwch lwybr yn ôl i fyny i’r ffordd.

Dilynwch y ffordd i lawr i’r gyffordd ‘T’. Ewch drwy’r giât mochyn gyferbyn, ac i ben y llwybr sy’n gyfochrog â’r ffordd.

Croeswch y lôn ac ewch drwy giât mochyn i ddilyn y Llwybr Arfordirol i lecyn o rostir agored ar ben y clogwyn.

Dilynwch y prif drac o amgylch yr arfordir, gan gadw golwg am y dyfnentydd, a dilyn y cyfeirbyst at Borth Dafarch.

Traeth Porth Dafarch i parc gwledig

Ewch i’r dde ar hyd y ffordd ar ôl y traeth, gan gymryd gofal (dim palmant).

Ychydig cyn y cwrs golff, trowch i’r chwith i fyny dreif Isallt Fawr. Ar ben honno, dilynwch y cyfeirbyst ac ymyl glaswelltog y cae, i lawr trac at lôn.

Trowch i’r dde ar y lôn, heibio bwthyn adfeiliedig ar y chwith. Trowch i’r chwith ar y ffordd, ewch rownd y tro, ac i’r dde i fyny’r stepiau i gae arall.

Dilynwch y llwybr dros y bryn eithinog, i lawr at y tai. Ewch o amgylch ochr dde’r tai, drwy dair giât, at ffordd bengaead dawel Cae Rhos.

Ewch i’r chwith at y ffordd brysurach, yna trowch i’r chwith ar hyd honno. Trowch i’r dde, dros y gamfa ysgol i lwybr ar ymyl cae, i fyny dros dir fferm, yn ôl at Fynydd Twr.

Dilynwch y cyfeirbyst melyn drwy rostir a phrysgwydd at ffordd arall. Trowch i’r chwith heibio tŷ mawr gwyn ac i’r dde ar lwybr, gan ddilyn y cyfeirbyst melyn mewn dolen fawr o amgylch cefn y tŷ.

Croeswch ragor o rostir, ac ar ôl cyrraedd wal, cadwch i’r chwith. Dilynwch y llwybr i lawr ac i fyny wedyn heibio fferm Cae Alltwen. Cadwch i’r chwith, gan gadw’r brigiad creigiog ar y chwith i chi, a dilynwch y llwybr o amgylch fferm Tre Wilmot.

Dilynwch y cyfeirbyst melyn i fyny at lwybr arall drwy fuarth fferm ac allan i’r ffordd. Trowch i’r dde, gan gymryd gofal ar y ffordd (dim palmant), ewch heibio ffynnon, ac i’r chwith i fyny trac. Ychydig ar ôl y bachdro (‘hairpin’), ewch i’r chwith ar drac cul a serth iawn i fyny’r llethr, i ymuno â’r llwybr ar hyd gwaelod y mynydd.

Dilynwch y waliau, ac mewn croesffordd yn y llwybrau, ewch yn syth ar draws at y lôn. Ewch i’r chwith wrth ymyl y tai. Mewn cyffordd ‘T’, trowch i’r chwith ac ewch i ben y lôn. Mae llwybr yn mynd i’r chwith, ac yna i’r dde, gan ddilyn ffens. Cerddwch i lawr rhywfaint o stepiau yn ôl i’r man cychwyn.

Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon

Hanes a diddordebau

  • Mynydd Twr ydy pwynt uchaf yr ynys (220m). Ynghyd â philer triongli, ceir adfeilion bryngaer o’r Oes Haearn ar ei gopa, ynghyd â thwr gwylio Rhufeinig.
  • Hen chwarel ydy Parc Gwledig y Morglawdd, sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Mae’n lle gwych i ddechrau archwilio’r mynydd a’r arfordir creigiog.
  • Cytiau’r Gwyddelod Tŷ Mawr ydy gweddillion anheddiad sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Neolithig (diwedd Oes y Cerrig). Bu pobl yn byw yma rhwng 2500BCE a 500AD.
  • Twr brics wy-thonglog anghyffre-din ydy Ffynnon y Wrach, a chanddo do cromennog.
  • Mae Ynys Lawd yn gartref i’r goleudy a’r bont grog sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’r clogwyni a’r staciau 60m o uchder yn cynnig cyfleoedd i ddringo sydd gyda’r gorau yn y byd.

Bywyd Gwyllt

Mae’r llecynnau o grug, mieri ac eithin yn denu clochdariaid y cerrig, tinwennod y garn, telorion yr helyg a llinosiaid. Ymhlith yr adar nodedig eraill y mae brain coesgoch, hebogiaid tramor a thylluanod bach. Gwelir sawl rhywogaeth o olfanod mudol yn y gwanwyn a’r hydref.

Oddi ar y clogwyni, gellir gweld palod, adar drycin y graig, gwylogod, gweilch y penwaig a huganod. Gellir gweld morloi llwyd, llamhidyddion, dolffiniaid Risso a dolffiniaid cyffredin oddi ar yr arfordir. Y rhostir hwn ydy’r unig le yn y byd i weld y planhigyn prin, chweinllys Ynys Gybi (‘spathulate fleawort’).

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cewch drên i Gaergybi, ond mae’r llwybr yn dechrau y tu allan i’r dref. Ym Maes y Mynydd, Llaingoch y mae’r safle bws agosaf, lle mae bws Rhif 22 yn stopio, ond byddwch yn dal i orfod cerdded rhywfaint i gyrraedd y Parc Gwledig.

Lluniaeth

Ceir digon o ddewis yng Nghaergybi. Mae gan Ganolfan Ymwelwyr yr RSPB gaffi, a cheir un ym Mharc Gwledig y Morglawdd hefyd.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Dechrau'r daith gerdded

Mwynderau

  • Croeso i gŵn.
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael.

gerllaw...