Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

esgidiau cerdded mwdlyd yn cerdded yn y goedwig

Cylchdaith Pentraeth

esgidiau cerdded mwdlyd yn cerdded yn y goedwig

Disgrifiad o gylchdaith ger Pentraeth, ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn.

Pellter: 8.4 cilometr / 5.2 milltir

Anhawster: Cymedrol

Nid yn unig y ceir golygfeydd panoramig dros fae 5km trawiadol Traeth Coch o ymyl y goedwig, ond hefyd cyfoeth o fywyd gwyllt, felly dowch â binocwlars. Taith wastad ar y cyfan, sy’n dringo i fyny i’r goedwig ac yn gallu bod yn fwdlyd ar ôl glaw. 

Pentraeth i Draeth Coch

O waelod y maes parcio yng nghanol Pentraeth, dilynwch yr arwydd ar gyfer cylchdaith Dona i lawr Stryd Brics ac i mewn i Stryd y Capel.

Gyferbyn â Chapel Bank trowch i’r dde drwy’r giât mochyn fetel i fynd ar drac dwbl.

Dilynwch y trac coediog hwn at y grid gwartheg nesaf, ac yn y troad yn y lôn i’r dde, cymrwch y llwybr yn syth ymlaen.

Cerddwch ar hyd ochr chwith y caeau, drwy fwlch yn y gwrych, at y giât mochyn fetel nesaf. Ewch ymlaen ar hyd llwybr rhwng dau wrych at dy, lle gallwch weld twr ymhlith y coed ar y chwith i chi.

Cadwch i’r dde ac yna i’r chwith ar y trac o amgylch tŷ arall, ac ewch ymlaen gan ddilyn y trac i lawr i Draeth Coch. Ar ôl cyrraedd Pen-y-Lôn, ymunwch â’r Llwybr Arfordirol.

Trowch i’r dde, a dilynwch drac tywodlyd ar draws y bont garreg gul dros yr aber at y ffordd.

Trowch i’r chwith dros ail bont, heibio’r gofeb i Hywel ap Owain Gwynedd, i faes parcio’r traeth.

Traeth Coch i Goch y Mieri

O faes parcio’r traeth, dilynwch yr arwyddion am y Llwybr Arfordirol, gan gadw’r môr ar y chwith. Mae’r llwybr yn croesi cefn y traeth.

Ar ôl y dreif at Tyn Coed ar y dde, mae’r llwybr yn lledu i drac. Pasiwch y gwelyau cyrs ar y chwith a chroeswch nant fechan.

Yn y tro yn y trac i’r dde, dilynwch y llwybr yn syth ymlaen. Yn union ar ôl y sialé pren bach o’r enw Ger-y-Môr, trowch i’r dde wrth y cyfeirbost ac ewch i gyfeiriad y tir.

Coch y Mieri i Bentraeth

Ewch ymlaen am ychydig i fyny’r llwybr tywodlyd at y ffordd darmac, a throwch i’r dde gan ddilyn arwydd y Llwybr Arfordirol ar hyd y trac fferm â giât at Coch y Mieri.

Wrth yr eiddo, cymrwch lwybr ag arwydd i’r chwith i ddilyn ffens o amgylch cefn yr adeiladau. Ewch ar hyd ymyl y goedwig at gamfa ysgol ar y dde.

Dilynwch y Llwybr Arfordirol i’r chwith at giât mochyn fetel. Ewch yn syth ymlaen gan ddilyn llinell y ffens sy’n ffinio â Choedwig Pentraeth ar y chwith, a phasiwch drwy giât mochyn bren.

Yn yr ail giât mochyn bren, cymrwch y llwybr i lawr, ewch i’r chwith ar ôl cyrraedd y cyfeirbost. Dilynwch y llwybr hwn y tu ôl i’r eiddo ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr at ymyl y coetir, at giât mochyn bren arall. Yn lle mae’r trac yn rhannu wrth y cyfeirbost, cymrwch y llwybr ar y dde i lawr at drac yn y fynedfa i Tyn Coed.

Trowch i’r chwith, a dilynwch y trac hwn heibio’r mynedfeydd i Tan y Mynydd a Tyddyn Waen. Mewn troad yn y trac, cadwch i’r dde heibio Tyn Gair at y ffordd darmac wrth y fynedfa i Glan Morfa.

Dilynwch y ffordd hon at y gyffordd â ffordd y traeth. Trowch i’r dde yma at faes parcio’r traeth, ac yna wrth yr arwydd, trowch i’r chwith, yn ôl dros y bont yr aber.

Ewch i’r chwith yn Pen y Lôn, i gyfeiriad y tir, i ddychwelyd i’ch man cychwyn.

Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon

Hanes a diddordebau

  • Mae enw Pentraeth yn cyfeirio at ei leoliad ar ben bae tywodlyd Traeth Coch gerllaw.
  • Mae enw Traeth Coch yn deillio’n rhannol o liw’r fflatiau llaid, tra bo’r gair ‘Wharf’, o’r enw Saesneg ‘Red Wharf Bay’, yn gamsillafiad o’r gair ‘Warth’, sef term cyffredin yn ne-orllewin Lloegr am lan neu draethell.
  • Codwyd y Twr a leolir ar dir preifat ar ddechrau’r 19eg ganrif, gan Gapten Morgan, fel twr gwylio. Roedd y Capten yn berchen sawl llong fasnachu, a gallai gadw golwg amdanynt yn cyrraedd y cei yn Nhraeth Coch.
  • Ceir cofeb i Hywel ap Owain Gwynedd ym maes parcio’r traeth, sy’n coffáu Brwydr Pentraeth gerllaw ym 1170, ym mhle fu farw. Roedd Owain, a oedd yn dywysog a bardd, wedi ymladd ei hanner brodyr am gyfran o Deyrnas Gwynedd yn dilyn marwolaeth eu tad.
  • Mae Coedwig Pentraeth yn 3km² o goetir conifferaidd a blannwyd yn y 1950au.

Bywyd Gwyllt

Ar lanw isel, mae’r 10km² o dywod a mwd agored yn croesawu gylfinirod, piod môr, pibyddion coesgoch, cwtiaid, pibyddion y traeth, pibyddion y mawn, ac yn ystod misoedd y gaeaf, gwyddau duon.

Yn yr haf, gellir gweld tegeirianau bera yn tyfu yn y twyni. Efallai y gwelir dyfrgwn yn yr afon, ac mae Coedwig Pentraeth yn gartref i’r wiwer goch.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae bws Rhif 50 o Langefni i Fiwmares; Rhif 55 o Langefni i Bentraeth a Thalwrn; Rhifau 62 a 62C o Fangor i Amlwch; a Rhif 63 o Fangor i Llanerchymedd, i gyd yn rhedeg gwasanaethau i Bentraeth o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Lluniaeth

Gellir bwyta mewn dwy dafarn ym Mhentraeth. Ceir hefyd siop frechdanau,ynghyd â siop cyfleustra yn yr orsaf betrol.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Dechrau'r daith gerdded

Mwynderau

  • Caffi.
  • Parcio ar gael.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw

gerllaw...