
Cylchdaith Porth Llechog

Disgrifiad o daith gylchol ger Porth Llechog, ar arfordir gogleddol Ynys Môn.
Pellter: 5.1 cilometr / 3.1 milltir
Anhawster: Cymedrol
Rhan o’r Llwybr Arfordirol gogleddol dramatig ydy hanner y llwybr, â’i olygfeydd gwych o Drwyn bychan dros Borth Wen. Mae’r daith allan ardraws tir fferm yn gyferbyniad cyfareddol â’r morlin gwyllt a welwch wrth ddychwelyd.
Cyfarwyddiadau
Y Maes Parcio i Adfail y Felin Wynt
O’r maes parcio, trowch i’r chwith a cherddwch i fyny’r ffordd.
Mewn dipyn, trowch i’r dde, gan ddilyn arwydd llwybr i fyny lôn.
Trowch i’r chwith ar lwybr ag arwyddbost, a byddwch yn mynd drwy giât mochyn i gae.
Cadwch i’r chwith i fyny at giât y tu hwnt i’r cae, ac yna i’r dde, i fyny’r lôn tuag at Tŷ Gwyn. Cyn Tŷ Gwyn, trowch i’r chwith dros y caeau, gan ddilyn llwybr at fferm.
Croeswch y lôn a chae arall gan ddilyn cyfeirbyst melyn. Ewch i fyny bryn sydd wedi’i orchuddio ag eithin, dros wal sy’n dod i lawr, tuag at gyfeirbost melyn.
Croeswch y caeau tuag at adfail y felin wynt. Ar ôl cyrraedd y felin wynt, ewch tuag at y tŷ fferm.
Adfail y Felin Wynt i Borth Wen
Pasiwch o flaen Fferm Pant-y-Gaseg ac ewch drwy’r giât ar ochr chwith y tŷ.
Dilynwch y trac i lawr yr allt a thrwy giât y fferm wrth arwydd llwybr.
Cerddwch i fyny’r bryn drwy’r eithin, a thros y gamfa. Cadwch ar ochr dde’r cae nesaf, a throwch i’r chwith ar ôl cyrraedd y trac, i gyfeiriad yr arfordir.
Trowch i’r dde yn y gyffordd yn lle mae’r lonydd yn cyfarfod. Ewch heibio Fferm Porth Wen ac ymlaen i lawr y lôn.
Yn union cyn y fferm nesaf, o’r enw Castell, ac ar ôl set o gilbyst pren, cadwch i’r dde ar drac â wal ar y naill ochr iddo, ag arwyddbost y ‘Llwybr Arfordirol’.
Porth Wen i maes parcio
Dilynwch y Llwybr Arfordirol o amgylch clogwyni dwyreiniol Porth Wen. Cewch olygfa yn ôl i gyfeiriad yr hen waith brics ar yr ochr arall i’r bae. Mae’r llwybr yn glir ac yn laswelltog, gydag ambell ran greigiog.
Byddwch yn pasio drwy ddwy giât mochyn ac yn y diwedd yn dod i lecyn gwyrdd, gwastad ger Porth Llechog.
Trowch i’r chwith drwy giât, a dilynwch y llwybryn ôl tua’r tir, a fydd yn troi’n ffordd yn y diwedd, sy’n mynd i lawr i’r bae.
Trowch i’r dde yng nghyffordd y ffordd, ac i fyny’r allt fe welwch eich man cychwyn, sef y maes parcio, o’ch blaen.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a Diddordebau
- Mae’r enw Saesneg, ‘Bull Bay’, yn deillio o graig o’r enw Pwll y Tarw a leolir ger y bae.
- Porth Llechog ydy’r pentref mwyaf gogleddol yng Nghymru. Ceir gorsaf bad achub, ynghyd â chwrs golff gerllaw, a chlwb rhwyfo.
- Cewch weld gweddillion pwll nofio llanw preifat Porth Llechog, a adeiladwyd ym 1864 ar gyfer Ardalydd Môn. Cafodd ei ailwampio yn y 1920au fel rhan o gyfadeilad mawr a oedd yn efelychu Baddondy Rhufeinig.
- Mae’n debyg nad oedd yr hen felin a basiwch tua 1km i mewn i’ch taith ond yn rhedeg peiriannau fferm ar gyfer Fferm Pant-y-gaseg. Roedd eisoes mewn cyflwrad feiledig erbyn 1899.
- Mae ffurfiannau’r creigiau a welir o’r Llwybr Arfordirol yn ddiddorol iawn,gyda haenau plyg, bwâu, staciau o graig,dyfnentydd, a sawl ogof sy’n anodd mynd atynt. Mae’r graig ei hun yn un o’r hynaf yng Nghymru, a honno’n 570 miliwn o flynyddoedd oed.
- O ben y clogwyn yn Nhrwyn bychan,yn edrych dros y bae ym Mhorth Wen,gallwch weld yr hen waith brics ar yr ochr bellaf.
Bywyd Gwyllt
Mae’r clogwyn i’n lle gwych i wylio adar i gyfeiriad y môr. Ceir adar môr fel palod, gwylogod, a phob math o wylanod yn yr ardal. Ar y lan, ym Mhorth Llechog, gallwch weld piod môr ac adar hirgoes eraill. Yn aml iawn, gwelir llamhidyddion a morloi cyffredin yn agos i’r lan.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae sawl gwasanaeth bws yn stopio ym Mhorth Llechog, sef Rhifau 31, 60, 61,62 a 562. Mae Bws Rhif 61 (Amlwch i Gaergybi)yn rhedeg pump neu chwe gwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Lluniaeth
Mae Gwesty Trecastell ym Mhorth Llechog yn cynnig bwyty a bar sy'n agored i’r cyhoedd.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Parcio ar gael.