
Cylchdaith Rhoscolyn

Disgrifiad o daith gylchol ger Rhoscolyn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.
Pellter: 9.4 cilometr / 5.8 milltir
Anhawster: Cymedrol
Taith wastad ar y cyfan mewn cornel dawel o Ynys Gybi, lle gwelir clogwyni isel syfrdanol a thraethau tywodlyd eang. Mae tir fferm yn nodwedd amlwg, ac mae ambell ran o’r daith ar ffyrdd tawel. Mae’n llawn hanes lleol â Santes Gwenfaen yn ganolbwynt iddo.
Cyfarwyddiadau
Traeth Borthwen i Draeth Llydan
Cerddwch yn ôl i fyny’r ffordd am 50m a throwch i’r dde wrth arwydd y Llwybr Arfordirol, dilynwch y llwybr gyda gwely cyrs ar y dde. Trowch i’r chwith wrth arwydd y llwybr nesaf.
Ewch drwy’r giât mochyn bren ac yn syth ymlaen, heibio tŷ Cae Llyn, i fyny’r dreif â thrac dwbl, ac yna’n syth i’r dde ar drac dwbl arall.
Ewch i’r chwith mewn cyffordd i fynd ar y Llwybr Arfordirol. Ewch drwy’r giât mochyn a dilynwch arwydd y Llwybr Arfordirol i’r pentref, gan ddilyn y cyfeirbyst melyn ar draws y rhostir.
Cerddwch o amgylch y pentir at y maes carafanau, ond gan ddilyn yr arfordir. Yn fuan, fe ddowch at giât mochyn a thair pont droed. Trowch i gyfeiriad y tir, at arwydd y Llwybr Arfordirol.
Croeswch y cae, ac ewch drwy giât mochyn arall. Dilynwch y llwybr o amgylch y pentir, croeswch y bont droed nesaf, ac ewch ymlaen ar y llwybr i Draeth Llydan, gan ddilyn yr arwyddion i lawr i’r traeth.
Traeth Llydan i Dŷ Weryl
Chwiliwch am y stepiau pren tua hanner ffordd ar hyd y traeth ar y chwith, drwy’r twyni. Dilynwch y llwybr ger coetir preifat ar y chwith i chi.
Ewch drwy’r giât mochyn, ar draws y llwybr pren at giât mochyn arall, a chroeswch y cae at yr adeiladau fferm sydd wedi’u haddasu.
Ewch allan o fuarth y fferm dros gamfa gerrig, a dilynwch yr arwyddion ar hyd y trac dwbl yn syth allan i’r ffordd. Arhoswch ar y ffordd, gan anwybyddu arwydd am y Llwybr Arfordirol ar y dde.
Ewch i’r dde yng nghyffordd y ffordd. Yn fuan ar ôl pasio Tŷ Lôn, cymrwch y llwybr troed ar y chwith, i fyny’r stepiau, drwy giât mochyn, ac ar draws y cae a thrwy ddarn â gwrych ar y naill ochr iddo.
Croeswch ddau gae drwy giatiau mochyn i ddod allan rhwng dau dy gwyn yn Tŷ Woods, gan ddilyn eu dreif at y ffordd.
Ewch i’r chwith i fynd ar y lôn yn Llainysbylldir, ac i’r dde wrth yr arwydd am lwybr yn y troad yn y ffordd i’r chwith.
Tŷ Weryl i Draeth Borthwen
Cymrwch y llwybr ar yr ochr dde i’r ardd yn y tŷ gwyn o’r enw Tŷ Weryl. Pasiwch drwy ddau gae a dwy giât mochyn, yna cadwch i’r dde, gan anelu at gornel y wal.
Ewch dros y gamfa ysgol ac at y giât mochyn ar y chwith i’r eglwys, ac ar y llwybr ochr yn ochr â’r wal. Trowch i’r chwith, a dilynwch y ffordd at y fferm. Ewch drwy’r giât mochyn a chroeswch y cae at y giât mochyn nesaf.
Mae’r llwybr yn fforchio’n ddwy yn fan hon: cadwch ar ochr chwith y cae gan ddilyn y wal, byddwch yn cerdded i gyfeiriad gwrthglocwedd o amgylch y fferm.
Dilynwch ymyl y cae drwy ddwy giât mochyn arall, a fydd yn dod â chi i’r Llwybr Arfordirol. Trowch i’r chwith ar draws y bont droed a thrwy’r giât mochyn.
Dilynwch y llwybr, mae o’n gul, felly cymrwch ofal. Mae Ffynnon Wenfaen ar y dde i chi.
Ewch drwy’r giât mochyn ar y pen pellaf i’r wal, dros y cerrig sarn, yna dilynwch y llwybr i fyny i’r chwith at Orsaf Gwylwyr y Glannau.
Ceir piler triongli ar ben y bryn i’r chwith, ynghyd â golygfeydd da. Ewch i lawr y bryn, gan basio drwy ddau gae a dwy giât mochyn.
Dilynwch y llwybr rhwng y tai, dros y glaswellt a’r gerddi, ac i lawr i’r traeth.
Croeswch y traeth, neu defnyddiwch y llwybr ar y chwith, yn ôl i’r maes parcio.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a diddordebau
- Gelwid Rhoscolyn yn flaenorol yn Llanwenfaen (Eglwys Santes Gwenfaen). Mae’r enw’n cyfeirio at biler a godwyd gan y Rhufeiniaid i nodi eu ffiniau.
- Sefydlwyd Eglwys Santes Gwenfaen yn 630AD, ceir drws canoloesol yno a bedyddfaen o’r 15fed ganrif.
- Yn ôl y chwedl, cafodd Santes Gwenfaen ei hel ymaith o’i chell gan y derwyddon, dihangodd drwy ddringo stac y graig oddi ar bentir Rhoscolyn. Daeth y llanw i mewn ac fe’i cludwyd ymaith gan angylion.
- Hefyd, ym Mhentir Rhoscolyn, ceir bwâu craig o’r enw’r Bwa Du a’r Bwa Gwyn.
- Defnyddiwyd Ffynnon Wenfaen, a amgylchynir gan stepiau cerrig a seddau canoloesol, gan y pererinion yn ystod yr Oesoedd Canol.
- Mae Porth-y-Corwgl o bwys rhanbarthol fel un o’r ffawtiau daearyddol gorau sydd i’w gweld ar Ynys Môn.
Bywyd Gwyllt
Mae’r rhostir a’r prysgwydd ar y clogwyni’n cynnal poblogaethau o glochdariaid y cerrig, llwydfronnau a thinwennod y garn, ynghyd ag adar nodedig fel brain coesgoch, hebogiaid tramor, mulfrain, cigfrain a chudyllod coch.
Gwelir morloi’n torheulo ar y grwp o ynysoedd creigiog isel oddi ar yr arfordir o’r enw Ynysoedd Gwylanod.
Ymhlith y blodau gwyllt yn yr ardal y mae llygad Ebrill, fioledau a llwylysiau.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae bws Rhif 23 yn stopio yn Rhoscolyn ddwywaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Lluniaeth
- Mae Parc Gwyliau Traeth Llydan yn cynnig bwyty a chaffi glan môr tymhorol.
- Gallwch gael bwyd yn nhafarn The White Eagle a leolir yn Rhoscolyn.
- Mae Capel Rhoscolyn yn lleoliad digwyddiadau sydd yn aml yn darparu bwyd a diod.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Parcio ar gael.