Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Rhosneigr_stormy-seas

Cylchdaith Rhosneigr

Rhosneigr_stormy-seas

Disgrifiad o daith gylchol ger Rhosneigr, ar arfordir deheuol Ynys Môn.

Pellter: 3.6 cilometr / 2.2 milltir

Anhawster: Hawdd

Taith fer a gwastad ydy hon, o amgylch Llyn Maelog, ac ar hyd Traeth Llydan. Gall binocwlars fod yn ddefnyddiol gan fod y ddau le’n cynnig cyfleoedd gwych i weld bywyd gwyllt o bob math. Mae rhannau o lwybr y llyn yn greigiog neu’n fwdlyd. 

Cyfarwyddiadau

Y Maes Parcio at y Bompren bellaf

Dechreuwch o’r man parcio bach oddi ar y ffordd wrth ymyl y bont ffordd ar yr A4080, yn union y tu allan i Rosneigr.

Croeswch y brif ffordd yn ofalus, ac ewch i mewn i ardal y llyn wrth arwydd y llwybr a’r llwybr bordiau. Croeswch y bompren fechan a dilynwch y llwybr bordiau rhwng y ffens fetel a’r gwelyau cyrs ar y dde.

Ewch ymlaen i ben y llwybr bordiau hwn at giât wrth lan y llyn. Dilynwch y llwybr tuag at dy o’r enw Y Betws, gyda giât mochyn a waliau brics coch ar y chwith i chi.

Ewch i fyny’r stepiau i’r cae nesaf â’r brigiadau creigiog. Wedyn, mae’r llwybr yn dilyn y rhedyn drwy’r cae i gyfeiriad Parc Gwyliau Tŷ Hen, a thrwy giât mochyn.

Dilynwch y cyfeirbost wrth y giât a chadwch i’r dde ar hyd glan y llyn. Cerddwch rhwng y brigiadau creigiog a’r eithin, a dilynwch y cyfeirbyst melyn i’r cae.

Ewch drwy giât mochyn arall at y cyfeirbost melyn nesaf, a cherddwch i lawr at lan y llyn, gan basio’r creigiau ar y dde at y bompren â giât dros y nant.

Y Bompren Bellaf at y Blwch Postio

Croeswch y bont a dilynwch y llwybr ar lan y llyn at yr eithin ar y chwith i chi, ynghyd â’r brigiadau creigiog. Ewch i’r chwith, drwy sawl giât mochyn, at fyngalo a phompren.

Mae’r llwybr yn mynd rhwng rhywfaint o goed drain gwynion at lecynnau glaswellt mwy agored, ac yna giât, a giât mochyn.

Dilynwch y cyfeirbyst i lawr lôn â thrac dwbl gyda chyrs ar y dde i chi. Trowch i’r dde ar ôl cyrraedd y lôn, a phasiwch sawl dreif preifat ar y chwith i chi nes cyrraedd y gyffordd ‘T’ gyda’r brif ffordd, gan adael ardal y llyn.

Y Blwch Postio i’r Maes Parcio

Trowch i’r dde yn y brif ffordd, ewch dros y bont a chroeswch y ffordd yn ofalus at arwydd y llwybr cyhoeddus wrth y blwch postio.

Dilynwch y lôn hon a chanddi fannau pasio a thwmpathau cyflymder, gan anwybyddu arwydd y llwybr ar y chwith i chi, a phasio Maes Carafanau Pensieri.

Trowch yn syth i’r dde wrth gyfeirbost y Llwybr Arfordirol, drwy’r moresg yn union cyn y tai. Yna trowch i’r chwith ar ôl y tai i fynd ar y traeth, a throwch i’r dde i fwynhau cerdded ar hyd y traeth tywodlyd i gyfeiriad Rhosneigr.

Ar ôl cyrraedd y nant, ewch i’r dde i fyny’r nant, a thros bompren i lecyn picnic.

Dilynwch y llwybr at y tai, ac ewch i’r dde wrth y wal i ddychwelyd i’ch man cychwyn.

Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon

Hanes a diddordebau

  • Mae’n debyg bod ‘neigr’, o’r enw Rhosneigr, yn deillio o enw’r arweinydd Yneigr o’r 5ed ganrif. Daeth y pentref yn lle gwyliau poblogaidd yn y cyfnod Edwardaidd, mae nifer o’i adeiladau’n dyddio o’r adeg honno.
  • Llyn 26 hectar naturiol ydy Llyn Maelog, sy’n hyd at 3m o ddyfnder mewn mannau. Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA/SSSI), a dyma’r unig Faes Pentref a ddynodwyd yn swyddogol yng Nghymru sydd hefyd yn llyn.
  • Mae twyni a bae llydan, cysgodol, Traeth Llydan yn boblogaidd â phobl ar wyliau, a rhai sy’n caiacio, yn padlfyrddio ac yn nofio.

Bywyd Gwyllt

Yn dibynnu ar adeg y flwyddyn, mae’r llyn fel arfer yn llawn adar: fel elyrch dof, gwyddau Canada, gwyddau llwydion, crehyrod gleision, piod môr, hwyaid yr eithin, cwtieir, ieir dwr, hwyaid pengoch, mulfrain, telorion y cyrs, breision y cyrs, ac mae gwylanod penddu’n nythu ar yr ynys fechan.

O dan y wyneb, ceir draenogiaid, merfogi­aid, cochiaid, rhuddbysgod a phenhwyaid.

Ymhlith y planhigion o gwmpas y llyn y mae’r trewyn, a’r llafnlys mawr, sy’n anghyffredin yn yr ardal hon. Planhigion eraill, prinnach, a geir ar lannau’r llyn ydy llyriad-y-dwr bach a’r frwynen flodeuog.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Lleolir Gorsaf Reilffordd Rhosneigr ger pen gogleddol y llyn. Gellid cymryd llwybrau cyhoeddus gerllaw’r orsaf i gysylltu â’r daith hon.

n Mae bws Rhif 25 o Gaergybi i Aberffraw yn stopio yn Rhosneigr, fel y mae bws Rhif 45 o Langefni i Rhosneigr. Maent yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Lluniaeth

Ceir sawl caffi, tafarn a siop yng nghanol pentref Rhosneigr.

Mae adeilad yr Oystercatcher ger y twyni’n fwyty mawr gyda barrau.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Dechrau'r daith gerdded

Mwynderau

  • Parcio ar gael.

gerllaw...