Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Amgueddfa Arforol

Cylchdaith Caergybi

Amgueddfa Arforol

Disgrifiad o daith gylchol yn Caergybi, ar arfordir gorllewin Ynys Môn.

Cychwyn o
Anhawster
Hawdd
Pellter
Tua 3.0 milltir

Mae gan Gaergybi lawer i’w gynnig: o adfeilion Rhufeinig, i gampau peirianyddol oes Fictoria. Mae canol y dref yn llawn caffis, siopau a thafarnau, ond i’r rheiny y mae’n well ganddynt daith gerdded fwy gwledig, mae Parc Gwledig y Morglawdd ychydig bellter o’r Marina, ar hyd y Llwybr Arfordirol.  

Cyfarwyddiadau

Gellir cychwyn y daith gylchol hon o gwmpas Caergybi yn unrhyw le.

Y Marina i’r Orsaf Reilffordd

O’r marina, ewch ar hyd y promenâd gyda’r môr ar y chwith i chi. Pan gyrhaeddwch yr Amgueddfa Arforol, ewch i fyny’r stepiau a throwch i’r chwith heibio’r maes parcio bach.

Ewch ar hyd y ffordd heibio’r maes chwarae a’r rhandiroedd. Dilynwch y ffordd rownd i’r dde heibio rhes o dai llety.

Cadwch y ffens hir ar y chwith i chi. Gyferbyn â maes parcio, ceir casgliad o weithdai morol mawr, sy’n adeiladau rhestredig Gradd II.

Yna, ar y dde i chi, ceir waliau’r gaer rufeinig, a stepiau at Eglwys Sant Cybi.

Ar ôl maes parcio arall, dringwch y stepiau metel. Trowch i’r chwith ar ben y stepiau a chroeswch Bont y Porth Celtaidd i’r orsaf reilffordd.

Yr Orsaf Reilffordd i Sgwâr y Farchnad

Ewch allan o’r orsaf reilffordd a throwch i’r dde tuag at y gylchfan, a chroeswch y fynedfa i’r porthladd. Trowch i’r chwith ar hyd Ffordd Turkey Shore, heibio tai lliw pastel.

Yn fuan, fe welwch arwydd brown Cofeb Skinner ar y dde i chi. Dringwch y stepiau i ymweld â’r gofeb ac edmygu’r golygfeydd dros y dref a’r harbwr.

Dilynwch eich llwybr yn ôl at yr orsaf reilffordd, ond trowch i’r chwith ar ôl i chi groesi’r croesfannau sebra. Cerddwch i fyny at bont y rheilffordd.

Hanner ffordd dros y bont, ar y dde, fe welwch dwr y cloc. Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde i gyfeiriad canol y dref.

Croeswch y ffordd yn y groesfan pelican, ac wrth gofeb y rhyfel, trowch i’r chwith, i fyny Stryd y Farchnad. Ewch ymlaen i fyny Stryd y Farchnad.

Ar y dde, byddwch yn pasio rhodfa â theils glas, sef ochr y dref o Bont y Porth Celtaidd.

Sgwâr y Farchnad i’r Marina

Wrth y groes garreg (mae’r ddau borth carreg bwaog ar y dde yn arwain at Eglwys Sant Cybi) ewch i’r chwith, ac yna i’r dde, i fynd heibio nifer o siopau, caffis a thafarnau.

Ar y chwith, fe welwch borth haearn, sef y fynedfa i Neuadd y Farchnad. Ewch heibio tafarn y Stanley Arms, a dilynwch y ffordd rownd i’r chwith.

Ewch ymlaen i fyny Stryd Newry, heibio Neuadd y Dref a chapel Bedyddwyr ar y dde.

Dilynwch Stryd Newry heibio’r filas brics coch ar y chwith, ac i lawr yr allt at Ffordd y Traeth.

Trowch i’r chwith ac ewch ar hyd Ffordd y Traeth heibio’r ardd isel yn ôl i’r marina.

Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon

Safleoedd dethol

  • O Gofeb Skin­ner, ceir golyg­feydd panoramig dros yr harbwr a’r dref. Mae’n coffáu’r Capten John Skinner a oedd yn byw yng Nghaergybi, er y’i ganwyd yn yr Unol Daleithiau ym 1760.
  • Agorwyd y Morglawdd ym 1873, mae’n dal i fod yr hiraf yn y DU, a hwnnw’n 2.75km o hyd. Cyflogwyd 1,300 o ddynion i’w adeiladu. Erbyn hyn, mae’r chwarel lle cloddiwyd y cerrig ar ei gyfer yn barc gwledig.
  • Adeiladwyd Pont y Porth Celtaidd mewn arddull pensaernïol tra modern. A hwnnw’n rhychwantu 160m, fe’i hagorwyd yn 2006, ac mae’n cysylltu canol y dref â’r orsaf reilffordd a therminws y fferi.
  • Adeiladwyd Neuadd y Farchnad ym 1855 gan y tirfeddiannwr a’r gwleidydd lleol William Owen Stanley. Fe’i defnyddiwyd fel marchnad, llys barn, barics milwrol, llyfrgell, a lleoliad bocsio.
  • Yn adfeilion Caer Rufeinig, ceir adeilad atyniadol Eglwys Sant Cybi sy’n dyddio o’r 13eg ganrif. Wedi’i sefydlu yn 540AD gan Sant Cybi, cefnder i Dewi Sant, fe gafodd yr Eglwys ei hanrheithio gan Lychlynwyr yn y 10fed ganrif, a’i difrodi unwaith eto gan fyddinoedd goresgynnol Harri’r IV o Loegr ym 1405. Ceir Eglwys y Bedd yno hefyd, tybir mai hon ydy man gorffwys Serigi, sef gwron a chawr Gwyddelig o’r 6ed ganrif.
  • Gyda rhan­nau ohono o’r golwg bellach, a hwnnw braidd yn druenus yr olwg, cafodd Bwa Siôr IV ar Ynys Halen ei enwi i goffáu ymweliad y Brenin â’r dref ym 1821. Ond fe’i hadeiladwyd ym 1824 i nodweddu pen gogleddol ffordd A5 Thomas Telford, sy’n cysylltu Llundain â Chaergybi.
  • Man cymunedol amlbwrpas ydy Canolfan Ucheldre, sef hen adeilad capel lleiandy urdd lleianod Bon Sauveur Caergybi.
  • Yn Amgueddfa Arforol Caergybi, ceir nifer aneirif o fodelau, paentiadau, lluniau ac arteffactau sy’n ymwneud â llongau. Dyma hen orsaf y bad achub, sy’n dyddio o 1858, ac mae’n un o’r hynaf yng Nghymru.
  • Yr adeilad ger Cofeb y Rhyfel ydy hen dafarn yr Eagle and Child Inn, a godwyd ym 1770. Dyma fan cychwyn teithwyr a oedd yn mynd ar daith 48 awr coetsis y Post Brenhinol i Lundain.

Mapiau llwybr

Mae mapiau llwybrau digidol yn seiliedig ar GPS ar gael isod.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Man cychwyn

Mwynderau

  • Caffi.
  • Parcio ar gael.
  • Siop
  • Bwyty
  • Lluniaeth
  • Toiledau

gerllaw...