
Din Lligwy

Mae Din Lligwy yn olion nifer o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid ar arfordir dwyreinol Ynys Môn yn agos i bentref Moelfre.
Mae'r blociau anferth o feini mawr calchfaen gwyn sydd yn gwneud y safle hwn yn drawiadol, hyd yn oed i'r ymwelydd mwyaf di-hid. Mae gan y lle awyrgylch, ymdeimlad o'r hen a chysylltiad gyda'r Hen Bobl a'r hen ffyrdd.
Saif Din Lligwy ar fryn isel heb fod ymhell o'r môr. Tu mewn i fur amgylchynol mae sylfeini nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn grwn a rhai yn hirsgwar. Mae olion gweithio haearn yn rhai ohonynt. Credir fod yr adeiladau crwn yn dai a'r rhai hirsgwar yn weithdai. Er ei fod yn is nag yr oedd yn wreiddiol, mae'r mur allanol mewn cyflwr da.
Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw. Bu cloddio archaeolegol yma, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau. Roedd rhai o'r rhain yn awgrymu fod y lle yn cael ei ddefnyddio yn y bedwaredd ganrif O.C., ond roedd hefyd dystiolaeth o adeiladau ar y safle cyn y rhai a welir, efallai yn dyddio i Oes yr Haearn. Cafwyd hyd i far o arian, crochenwaith wedi ei fewnforio ac eitemau gwydr.
Y farn gyffredinol o ystyried y darganfyddiadau hyn a'r tai crwn oedd fod Din Llugwy yn perthyn i uchelwr neu bennaeth brodorol oedd wedi ei ddylanwadu i ryw raddau gan ddiwylliant Rhufain ond yn parhau i gadw at bensaerniaeth draddodiadol yn bennaf. Mae'r safle yng ngofal Cadw. Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol eraill gerllaw, Capel Llugwy o'r 12fed ganrif a siambr gladdu Llugwy o'r cyfnod Neolithig.
Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Mae nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.
Am fanylion pellach gweler safle gwe CADW.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Nearest post code: LL72 8NH
Ymweld a'r wefanhttps://cadw.llyw.cymru/mwy-am-grwp-cytiau-din-llugwy
Mwynderau
- Croeso i gŵn.