Fel un o'r safleoedd harddaf a mwyaf cyffrous ar Ynys Môn - codwyd y goleudy ar Ynys Lawd ar arfordir gogledd-orllewinol Môn fel pwynt cyfeirio i gychod y glannau, ac i helpu llongau sy'n croesi Môr Iwerddon rhwng porthladdoedd Caergybi a Dun Laoghaire.
Profwch Daith y Goleudy. Ond yn gyntaf dilynwch siwrnai'r ceidwad i lawr 400 o stepiau i'r ynys gan weld ar yr un pryd daeareg ryfeddol y clogwyni.
Gall mynediad i'r Ynys gael ei effeithio gan y tywydd cyfnewidiol, felly ffoniwch ymlaen llaw neu edrychwch ar y wefan i osgoi siomedigaeth.
https://www.trinityhouse.co.uk/lighthouse-visitor-centres/south-stack-lighthouse-visitor-centre