Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Statue of the artist Kyffin Williams outside Oriel Môn with people walking in the background

Oriel Ynys Môn

Statue of the artist Kyffin Williams outside Oriel Môn with people walking in the background

Mae Oriel Môn yn newid bywydau trwy ofalu am, dehongli a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn

Oriel ac amgueddfa gelf yng nghanol Ynys Môn yw Oriel Môn. Fe ffurfiwyd ym 1990 i gartrefu casgliad Charles F. Tunnicliffe.

Mae Oriel Môn yn newid bywydau trwy ofalu am, dehongli a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn. Mae'n ceisio ysbrydoli creadigrwydd, a darparu cyfleoedd dysgu a mwynhad i bawb.

Bellach mae Oriel Môn yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ynys Môn ac mae'n dibynnu ar gefnogaeth yr awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Oriel Môn. Mae'n creu incwm o werthu celf, ein siop, rhoddion a llogi lleoliadau yn helpu i gefnogi ein rhaglenni addysgol, ymgysylltu â'r gymuned a rhaglenni cadwraeth ac artistig.

Bydd Oriel Môn ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Sul, 10yb tan 5yh.

Bydd disgwyl i gwsmeriaid gadw at weithdrefnau diogelwch ar y safle, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb, defnyddio diheintydd dwylo, cadw pellter o 2 fedr oddi wrth staff ac ymwelwyr eraill a dilyn y llwybrau ar y safle.

Mae’r mesurau diogelwch hyn ar waith er mwyn cadw ein staff a’n ymwelwyr yn ddiogel.

Fe'ch cynghorir i archebu tocyn i'r arddangosfa ymlaen llaw gan fod capasiti ymwelwyr ar y safle wedi ei leihau. Nid yw’n angenrheidiol - mi fedrwn gymryd eich manylion cyswllt wrth i chi ddod i mewn yn unol â gofynion Profi, Olrhain a Diogelu.

Gallwch archebu tocyn ar-lein.

Rhanbarth

Mynediad

Mynediad am ddim

Parcio

Parcio am ddim

Manylion Cyswllt

Rhif ffôn: 01248 724444

Cyfeiriad

Oriel Môn Rhosmeirch Llangefni LL77 7TQ

Ymweld a'r wefan

https://www.orielmon.org

Mwynderau

  • Caffi.
  • Taliadau cerdyn.
  • Croeso i goetsys.
  • Hygyrch i'r anabl.
  • Toiled anabl.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael.
  • Siop
  • Toiledau

gerllaw...