
Parc Morglawdd Caergybi

Mae'r parc yn rhoi blas ar holl brydferthwch, hanes ac apêl naturiol Ynys Môn - a hynny o fewn un safle. Mae gan y parc lawer i'w gynnig
Am ddiwrnod difyr yng nghefn gwlad hardd Ynys Môn, beth am ymweld â Pharc Morglawdd Caergybi? Mae wedi'i leoli wrth ymyl tref a phorthladd Caergybi - y porth celtaidd i Iwerddon.
- Arddangosfeydd - gallwch ganfod mwy am fywyd gwyllt a hanes diwydiannol y parc gwledig yn y ganolfan wybodaeth ac yn yr arddangosfeydd awyr agored.
- Llyn Llwynog - lle gallwch chi bysgota a gwylio'r cychod bach neu ymlacio yng nghwmni'r ieir dŵr a'r hwyaid gwylltion.
- Yr Arfordir Creigiog - mwynhewch y golygfeydd trawiadol wrth grwydro yn yr eithin a'r grug. .
- Bywyd gwyllt - gwyliwch y brain coesgoch a'r hebogau tramor wrth iddyn nhw hedfan uwchben yr hen chwarel.
- Cerdded - mae yma amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr ar bob lefel, gan gynnwys mynediad i Mynydd Twr ac Ynys Lawd.
- Cyfeiriannu - rhowch gynnig ar y cwrs cyfeiriannu ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi.
- Caffi ar gael.
- Parc chwarae i'r plant.
Cafodd Parc Gwledig Morglawdd Caergybi ei agor ym 1990 ac mae wedi'i leoli ar safle hen chwarel. O'r chwarel hon y cafwyd y cerrig i adeiladu morglawdd Caergybi sy'n 2.3km o hyd - y morglawdd hiraf yn Ewrop gafodd ei adeiladu rhwng 1846 a 1873. Mae'r parc yn cael ei reoli gan Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.
Bywyd gwyllt
Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli o fewn milltir neu ddwy i ganol tref Caergybi, ac mae’n hawdd mynd yno ar hyd y briffordd sy’n dilyn yr arfordir heibio’r morglawdd. Yr ynysoedd alltraeth a welir ar y gorwel ar ddiwrnod clir yw Ynysoedd y Moelrhoniaid, sydd tua 7 milltir i ffwrdd.
O’r ardal hon y daeth y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu’r morglawdd. Mae gan y parc ganolfan ymwelwyr, cyfleusterau parcio da, ac mae digonedd o lwybrau troed. Mae Llwybr Arfordirol Môn yn mynd drwy’r warchodfa, gan ddilyn yr arfordir o gwmpas Porth Namarch ac ymlaen i Ynys Arw a’r orsaf rybuddio pan fo niwl. Mae llwybr natur y parc yn ffordd dda o weld y gwahanol fathau o gynefinoedd a bywyd gwyllt sydd yma. Mae Parc Gwledig y Morglawdd yn fan arbennig o dda i wylio golfanod sy’n mudo yn y gwanwyn neu’r hydref, yn ogystal ag adar môr ac ymwelwyr haf fel y wennol a’r wennol ddu. Mae preswylwyr yr hen chwareli yn cynnwys y frân goesgoch garismatig a’r hebog tramor rhyfeddol.
Mae’r rhostiroedd yn cynnal poblogaeth o’r glöyn byw, y glesyn serennog, ac mae’r warchodfa yn gartref i nifer o wahanol rywogaethau o wyfynod gan gynnwys y teigr cochddu, teigrod y benfelen, blaen brigyn a’r em fforchog arian. Mae’r prysgwydd o eithin a mieri yn denu telor yr helyg, clochdar y cerrig, tinwen y garn a llinosiaid, ac mae’r dylluan fach yn ymweld â warchodfa – ac yn nodweddiadol fe’i gwelir yn haws yn ystod y dydd na’r dylluan frech neu’r dylluan wen. Mae nifer o wahanol fathau o degeirianau yma gan gynnwys tegeirian y wenynen, tegeirian y gors a’r tegeirian brych. Yn y gwanwyn ceir arddangosfeydd hardd o glustog Fair, seren y gwanwyn a throed yr iâr yn eu blodau. Mae’r arfordir yn lle da i edrych am lamhidyddion, morloi llwyd a dolffin Risso a’r dolffin cyffredin. Mae’r llynnoedd yn gartref i ieir dŵr a hwyaid gwyllt sy’n magu yno, a gellir gweld y crëyr glas yn aml yn sefyll yn berffaith llonydd, yn disgwyl yn eiddgar am unrhyw gyfle i ddal pysgod!
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
AHNE Economiadd a Chymuned, Bryn Cefni Business Centre Llangefni Anglesey LL77 7TW
Mwynderau
- Caffi.
- Croeso i goetsys.
- Hygyrch i'r anabl.
- Toiled anabl.
- Croeso i gŵn.
- Pwynt ailwefru cerbydau trydan
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Parcio ar gael.
- Toiledau