Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Beicwyr wrth ymyl rac beiciau glas a choch yng Nghors Ddygai Rhan o NCS 566.

Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Beicwyr wrth ymyl rac beiciau glas a choch yng Nghors Ddygai Rhan o NCS 566.

Sustrans yw prif elusen trafnidiaeth gynaliadwy y DU. Ein gweledigaeth yw byd lle mae teithio o fudd i iechyd a'r amgylchedd

Pob dydd, rydym yn gweithio ar ddulliau ymarferol a blaengar o ddelio gyda’r sialensiau sy’n ein hwynebu ni i gyd.

Mae Sustrans wedi datblygu dau o lwybrau sy’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar draws yr ynys er mwyn tynnu sylw at y rhwydwaith ardderchog o lonydd tawel a llwybrau di-draffig sydd yn yr ardal. Mae Lôn Las Cymru, sef Llwybr Cenedlaethol rhif 8 yn cychwyn/gorffen yng Nghaergybi ac yn mynd o gwmpas ymyl ddeheuol yr ynys cyn croesi i’r tir mawr ac am Gaerdydd! Mae’n mynd allan o Gaergybi drwy Barc Gwledig Penrhos ar hyd Cob Stanley cyn pasio’r maes awyr yn Y Fali lle mae modd gweld yn rheolaidd awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol yn ymarfer glanio. Yna, mae Lôn Las Cymru’n defnyddio lonydd tawel i gyrraedd Soar a Bethel cyn mynd i lawr i Gors Malltraeth lle mae’n ymuno gyda Lôn Las Cefni sy’n cysylltu’r ddau Lwybr Cenedlaethol.

O Bont Marcwis, mae modd beicio i Falltraeth neu Langefni neu barhau ar hyd Lwybr rhif 8 i Langaffo a Llanddaniel Fab ac yna ymlaen i Borthaethwy drwy Lanfair PG gyda chyswllt i’r orsaf reilffordd. Ym Mhorthaethwy, mae’r Llwybr yn croesi’r bont enwog ac ymlaen i Gaernarfon ar hyd ochr ddeheuol Afon Menai.

Mae llwybr beicio Arfordir Gogledd Cymru, Llwybr Cenedlaethol rhif 5 hefyd yn cychwyn/gorffen yng Nghaergybi cyn croesi canol yr ynys ar ei ffordd i Gaer. Mae Llwybrau 8 a 5 yn dilyn yr un trywydd allan o’r dref borthladd cyn gwahanu ym mhentref Y Fali. Mae Llwybr rhif 5 yn pasio Melin Llynon yn Llanddeusant, sef yr unig felin wynt sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n lle ardderchog i gael gorffwys bach.

Llannerch-y-medd yw’r pentref nesaf ar y Llwybr ac mae yno nifer o lefydd i stopio a phrynu cyflenwadau. Mae’r rhwydwaith ardderchog o lonydd tawel yn mynd â chi wedyn i gyfeiriad Llyn Cefni lle mae modd ymuno gyda phen gogleddol Lôn Las Cefni. Ar ôl Pentraeth, rydych yn mynd i lawr i Afon Menai a thref dlos Porthaethwy lle gellwch groesi’r bont i gyrraedd Bangor a mynd i’r dwyrain tuag at drefi arfordirol Gogledd Cymru.

Gellir defnyddio’r ddau Lwybr Cenedlaethol i gael taith gylchol o gwmpas yr ynys gyda mynyddoedd Eryri’n gefndir godidog i’r daith, neu gellir eu cyfuno gyda Lôn Las Cefni a’r pedwar llwybr ‘adar’ i greu amrywiaeth o opsiynau sy’n mynd â chi i galon yr ynys arbennig hon.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

http://www.sustrans.org.uk/

Ymweld a'r wefan

http://www.sustrans.org.uk/

Mwynderau

  • Croeso i grwpiau

gerllaw...