Cymerwch sedd wrth eich distyllfa fach gopr eich hun o fewn distyllfa Sir Fôn a chychwyn ar y daith o wneud jin. Byddwch chi'n crefftio, yn distyllu, ac yn potelu eich jin eich hun, yn union fel y meistri, gan ddewis o wahanol elfennau botanegol o bedwar ban byd.
Bydd y profiad yn para tua 2 awr a byddwch chi'n gadael gyda photel 70cl o'ch jin personol.
Beth mae'n ei gynnwys?
- Cyflwyniad i hanes jin
- Distyllu potel 70cl o'ch jin chi'ch hun gan ddewis elfennau botanegol
- 3 G&T a byrbryd
- Potel o jin eich hun i fynd adref