
Coedwig a Chwningar Niwbwrch

Mae Cwningar Niwbwrch yn system twyni tywod eang ac yn cynnwys man mwyaf deheuol Ynys Môn yn Abermenai.
Ffurfir y gwningar o dwyni gweithredol a sefydlog ac maent yn cynnig cynefin pwysig i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin.
Mae’r ardal yn ffurfio rhan o’r Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n cwmpasu Traeth Malltraeth, Pwll Dŵr y Cob, Morfa Heli Cefni, Abermenai, Ynys Llanddwyn, Bae Llanddwyn a Bae Penrhos. Fe’i plannwyd yn wreiddiol yn 1947 er mwyn rhwystro Niwbwrch rhag cael ei amlyncu gan dywod ac mae Coedwig Niwbwrch erbyn hyn yn adnodd pwysig gyda’i rhwydwaith helaeth o draciau a llwybrau. Er nad yw wedi ei chynnwys yn y Warchodfa Natur Genedlaethol, mae’r goedwig yn ardal bwysig i fywyd gwyllt. Wrth gerdded y llwybrau efallai y byddwch yn cael cipolwg ar wiwer goch neu'r gylfingroes neu’n clywed galwad yddfol y cigfrain yn hedfan uwchben gan fod hwn ar un adeg yn gartref i’r ail rif uchaf o gigfrain yn y byd. Teithiwch i’r de drwy neu ar gyrion y goedwig ac rydych yn cyrraedd yr ehangder mawr o draeth tywodlyd sy’n Fae Llanddwyn.
Gwneir y lleoliad hwn hyd yn oed yn fwy syfrdanol oherwydd y gefnlen o gadwyn Mynyddoedd Eryri a Phen Llŷn i’r de ac Ynys Llanddwyn i'r gogledd. Mae Llanddwyn yn ynys fach, lanwol ym mhen gogleddol Traeth Llanddwyn. Cafodd ei henw ar ôl eglwys y Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru a fu'n byw yno yn ôl traddodiad tan 460 OC. Gellir dod o hyd i olion yr eglwys ar yr ynys o hyd.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Niwbwrch
Mwynderau
- Parcio ar gael.