Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Melin wynt Mynydd Parys gyda awyr las yn y cefndir

Mynydd Parys

Melin wynt Mynydd Parys gyda awyr las yn y cefndir

Mae Mynydd Parys yn un o’r lleoliadau mae’n rhaid ymweld ag o! Rhwydwaith o deithiau cerdded o gwmpas tirwedd annaearol y mwynglawdd copr hynafol hwn.

Un olygfa na ddylid ei methu yw’r Mwynglawdd Agored mawreddog – wedi’i llunio gan fwynwyr yn defnyddio dim ond ceibiau, rhawiau a phowdwr gwn!

Mae lle i gerdded ar y gwastad o amgylch y Mwynglawdd Agored Mawr a golygfa gyda phanorama syfrdanol sy’n dangos lliwiau rhyfeddol y cloddio – palet artist o liwiau coch, oren, pinc, brown, porffor, du, gwyrdd, melyn a llwyd. Bu pobl yn mwyngloddio am y metelau sy’n llochesu ym Mynydd Parys ers yr Oes Efydd. Bu i’r pentwr o fwyn copr a ganfuwyd yno yn y 1760au arwain at fwyngloddio ar raddfa eang, gyda chynnyrch gymaint nes y daeth Amlwch i dra-arglwyddiaethu dros farchnad gopr y byd am ddegawd. Daeth i gael ei adnabod fel ‘Y Deyrnas Gopr’. ‘Y Brenin Copr’ oedd yr enw a roddwyd ar y perchennog, Thomas Williams. Hyd yn oed heddiw, credir fod cronfa wrth gefn o tua 6 miliwn tunnell fetrig o gopr dan waith yr hen fwynglawdd. Mae’r tirwedd dramatig, caregog yn ymddangos yn ddiffaith, ac eto mae’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys adar fel yr ehedydd, corhedydd y waun a’r frân goesgoch. Gall planhigion sy’n gallu gwrthsefyll copr a sinc oroesi yno. Mae gan yr ardal olygfeydd pell o’r Wyddfa ar ddyddiau clir. Mae mwy o wybodaeth yn llyfryn y Deyrnas Gopr a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Mynydd Parys Amlwch

Mwynderau

  • Parcio ar gael.

gerllaw...