Yn enwog fel un o'r traethau gorau ym Mhrydain , mae Llanddwyn gyda’i dwyni tywod trawiadol yn cynnig golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri, Caernarfon a Phenrhyn Llyn.
Ceir llwybr sy’n arwain trwy'r bryniau glaswelltog o'r traeth i'r warchodfa natur ar Ynys Llanddwyn a mae gan y goedwig gyfagos rwydwaith ardderchog o lwybrau troed. Mae safle hanesyddol Ynys Llanddwyn yn werth ymweld.
Maent ymhlith y gorau o Draethau Ynys Môn. Os ydych am dreulio amser ar rai o'n traethau yn ystod eich gwyliau, gall y traeth hwn gynnig cymaint i chi.
O dorheulo, ymdrochi, hwylfyrddio, barcud-syrffio, pysgota i rhamant Celtic hynafol.
Mae hyn i gyd yma, yn aros amdanoch!
Maes parcio a thoiledau
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ewch i wefan CNC i gael gwybod mwy am y cyfleusterau yn Nhraeth Llanddwyn.