Caergybi
Gellir olrhain tarddiad Caergybi yn ôl i 450CC, pan orchfygwyd goresgynwyr o Iwerddon gan y Brenin Celtaidd Caswallon ar Ynys Gybi.
Gellir olrhain tarddiad Caergybi yn ôl i 450CC, pan orchfygwyd goresgynwyr o Iwerddon gan y Brenin Celtaidd Caswallon ar Ynys Gybi.
Porthladd Caergybi yw porthladd fferi Iwerddon prysuraf y DG ac mae’n gartref i’r fferi fôr fwyaf yn y byd. Mae golygfeydd da dros y porthladd o dir Eglwys Sant Cybi, lle ceir hefyd olygfa dda o heneb Skinners ar graig Alltran. Codwyd yr obelisg gan bobl Caergybi er cof am y Capten John McGregor Skinner, un fu yn gymwynasgar iawn i dlodion y dref ac a foddodd yn dilyn ei olchi dros fwrdd ei long yn 1832.
Yng nghanol y dref, mae Eglwys Sant Cybi a sefydlwyd tua 550OC, yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Caer Gybi ac mae waliau’r gaer wreiddiol yn ei hamgylchynu o hyd. Yn yr ardal o gwmpas, fe geir nifer o safleoedd cynhanesyddol, yn cynnwys Siambr Gladdu Neolithig Trefignath, 1.5 filltir i’r De-ddwyrain o’r dref. Mae cytiau Gwyddelig Tŷ Mawr o ddiwedd y cyfnod Neolithig neu ddechrau’r Oes Efydd i’w gweld ar lethrau deheuol Mynydd Caergybi yn agos i Ynys Lawd.
Mae yna deithiau cerdded gwych o gwmpas yr arfordir ym Mharc Gwledig y Morglawdd, ac mae’r rhain yn cynnwys llwybrau sain, oriel agored newydd yn yr hen sied frics, a theithiau cerdded thematig. Mae Parc Gwledig y Morglawdd a Chanolfan Ymwelwyr y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yn Nhŵr Elin, Ynys Lawd yn ganolfannau gwylio adar poblogaidd.
Mae dewis gwych o dafarndai a bwytai yng Nghaergybi yn ogystal â dewis da o siopau, a chanolfan siopa y tu allan i ganol y dref. Meysydd parcio talu ac arddangos
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Caergybi, Ynys Môn.
Mwynderau
- Caffi.
- Taliadau cerdyn.
- Croeso i goetsys.
- Hygyrch i'r anabl.
- Toiled anabl.
- Croeso i gŵn.
- Pwynt ailwefru cerbydau trydan
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Bar trwyddedig.
- Parcio ar gael.
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
- Lluniaeth
- Bwyty
- Siop
- Toiledau
- Wi-Fi ar gael