Gwyliau a digwyddiadau
Dewch i gael eich diddanu!
Mae Ynys Môn yn ynys fach ag uchelgeisiau mawr. Mae hynny wedi’i adlewyrchu yn ein sîn adloniant amrywiol a deinamig. Mae yma raglen amrywiol drwy gydol y flwyddyn sy’n cynnwys popeth o ddigwyddiadau celf i sioeau amaethyddol, rasio modur i gystadlaethau hwylio, gwleddoedd bwyd i ffeiriau lleol.
Ymysg yr uchafbwyntiau mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, sy’n ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd, Diwrnodau Bad Achub arbennig ym Moelfre a Bae Trearddur, ail-greadau canoloesol yng Nghastell Biwmares, diwrnodau o hwyl i’r teulu ym Mhlas Newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, teithiau cerdded bywyd gwyllt, regatas hwylio ar Afon Menai a sportif beicio Tour de Môn.
Mae rhywbeth yn digwydd bob wythnos, bron – naill ai rasys neu ddiwrnodau trac – yn Nhrac Môn, y trac rasio modur sy’n eistedd ar arfordir y gorllewin (y trac prydferthaf yn y DU yn ôl llawer). Ac mae Maes Sioe’r Sir, reit ynghanol yr ynys yng Ngwalchmai, yn gartref i sioe flynyddol Sir Fôn, jamborî gwledig lliwgar na ddylech ei golli.
Cymerwch olwg ar yr hyn sy’n digwydd yma. Ond cofiwch, dyw popeth ddim ar y rhestr - holwch yn lleol am fwy o wybodaeth am beth sydd ‘mlaen.
Atyniadau
Chwaraeon a hamdden
Trefi
Beicio
Golff
Digwyddiadau
Hidlwyr
Rhanbarth
Llwytho
Ni ddarganfuwyd unrhyw ddigwyddiadau