
I deuluoedd: Digon da i'r Doctor
Mae’r daith hanner diwrnod hon yn mynd â chi i ddau le hollol wahanol - mynydd creithiog o harddwch arallfydol a llecyn picnic prydferth ar lan y môr.

Dechrau/gorffen: Amlwch/Traeth Lligwy, ger Moelfre
Pellter: tua 9 milltir/14.5km
Yn fyr: Mae’r daith hanner diwrnod hon yn mynd â chi i ddau le hollol wahanol – mynydd creithiog o harddwch arallfydol a llecyn picnic prydferth ar lan y môr.
Dilynwch y ffordd tua’r de, allan o harbwr Amlwch, gan ymuno â’r B5111 sydd, ar ôl rhyw filltir, yn eich tywys i’r maes parcio ar Fynydd Parys, gwaith copr mwya’r byd un tro. Rydych chi nawr ar dir arallfydol, lle yn y 18fed ganrif roedd 1,500 o bobl yn llafurio, ar yr wyneb ac o dan ddaear.

Mae’r holl gloddio gwyllt wedi creu tirwedd anarferol, ryfeddol, sy’n fôr o goch, oren, brown a melyn llachar, gyda phyllau dŵr yma ac acw ac adfeilion melin wynt yn goruchwylio’r cyfan. Mae rhwydwaith o lwybrau’n eich tywys i galon y mynydd. Un o’r gorau i deuluoedd yw’r llwybr 2.3 filltir/3.5km cylchol hwn (mae’n cymryd ychydig dros awr).
Ar eich taith fe allech weld blwch heddlu Llundain o’r 1960au. Mae papur newydd yr Independent yn disgrifio’r profiad o grwydro Mynydd Parys fel a ganlyn: ‘a Mars walk (through) something straight out of a science fiction film – Doctor Who was filmed here, after all’.
O Fynydd Parys, dychwelwch tua’r gogledd at Amlwch a’r A5025. Dilynwch y briffordd i’r de i gyfeiriad Moelfre, gan droi i’r chwith i’r is-ffordd yn Rhos Lligwy (tua milltir cyn Moelfre) ar gyfer Traeth Lligwy (mae ‘na barcio cyfleus). Paciwch bicnic – enwyd y traeth gan y cylchgrawn Coast fel ‘un o 10 llecyn picnic gorau gwledydd Prydain’.
Cadwch olwg am ddigwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal mewn atyniadau ledled yr ynys, o ail-greadau canoloesol i brosiectau cadwraeth, o ffeiriau i wyliau.