Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Castell Biwmares

I deuluoedd: Traeth trawiadol, castell campus

Ar y daith hon gall y plant adeiladu cestyll tywod cyn crwydro castell go iawn yn un o gaerau canoloesol gorau Ewrop.

Castell Biwmares
Cychwyn o
Benllech
Gorffen yn
Biwmares
Pellter
Tua 11 milltir

Mae’r plant yn siŵr o wirioni ar Fenllech, un o draethau mwyaf poblogaidd Ynys Môn sy’n wych ar gyfer nofio a phadlo. Pan fo’r llanw ar drai, mae digon o le i chwarae gêmau traeth ac adeiladu cestyll tywod. Mae’n draeth clasurol yng ngwir ystyr y gair, gyda phromenâd a phyllau glan môr. Mae’n amhosib pasio’r pyllau hyn (beth bynnag yw eich oedran!) heb chwilota am greaduriaid bach y môr.

Os nad yw hynny’n ddigon, mae Traeth Coch drws nesaf – stribyn euraidd eang o draeth. Mae’r dewis wir yn drawiadol yma.

Dilynwch yr A5025/B5109 i’r de i Fiwmares.

 

Nawr mae’n bryd concro’r castell ym Miwmares, Safle Treftadaeth y Byd sydd ymysg yr henebion canoloesol gorau yn Ewrop. Bydd y plant wrth eu boddau yn darganfod y bylchfuriau, llwybrau’r waliau a’r daeargelloedd.

Mae’n wers hanes mewn carreg sy’n siŵr o greu argraff. Mae cylch ar ôl cylch o waliau carreg yn amddiffyn craidd mewnol y castell, ac mae 300 o ddolenni saethau’n gwarchod y waliau allanol (heb anghofio’r ddyfrffos oedd yn amgylchynu’r gaer gyfan). Serch hynny, ni chafodd y campwaith hwn o bensaernïaeth filwrol erioed ei orffen yn llwyr ac mae’n parhau’n ‘ogoneddus o anghyflawn, y castell gwychaf na adeiladwyd fyth’.

Cadwch olwg am ddigwyddiadau teuluol arbennig sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Biwmares ac mewn atyniadau ledled yr ynys, o ail-greadau canoloesol i brosiectau cadwraeth, o ffeiriau i wyliau.

Mae Biwmares yn hafan i haneswyr. Yn ogystal â’r gaer gampus, mae Llys a Charchar Biwmares, sy’n cynnig blas dirdynnol ar drosedd a chosb yn oes Fictoria.

Roedd carcharorion yn aml yn cael eu dedfrydu i dros 400 mlynedd. Roedden nhw hefyd yn dioddef y felin draed, un o’r olaf sydd wedi goroesi yng ngwledydd Prydain, lle byddent yn cerdded am oriau yn pwmpio dŵr o gwmpas yr adeilad.

Ewch ar daith llawn awyrgylch, ac mae’n siŵr y cytunwch fod rhywbeth gwirioneddol iasol am y lle hwn. Hefyd, fe glywch stori ryfedd y cloc nad yw’n dweud yr amser. Yn ôl traddodiad lleol, mae’r cloc ar dŵr yr eglwys ger y carchar wedi bod yn annibynadwy byth ers iddo gael ei felltithio gan garcharor a gafodd ei ddienyddio am lofruddiaeth er iddo fynnu ei fod yn ddieuog.

Mae sawl un yn honni eu bod wedi gweld ysbryd yng Ngharchar Biwmares – does ryfedd wir!