
Anturiaethau a'r awyr agored: Tir a Môr
Teithiwch dros y tonnau a charlamwch ar gefn ceffyl ar daith drydanol drwy dde Ynys Môn.

Dechreuwch eich dydd gydag antur acwatig gyda trip ar gwch o Biwmares neu Porthaethwy, ffordd gyffrous o weld yr ynys o ongl wahanol.
Gwibiwch dros y dyfroedd, gan deithio o dan y ddwy bont sy’n cysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru a thrwy’r drwg-enwog Bwll Ceris, darn tymhestlog o Afon Menai sy’n adnabyddus am ei greigiau, ei drobyllau a’i longddrylliadau. Ar eich taith, bydd eich capten yn adrodd hanesion y môr a’r tirweddau amrywiol a welwch wrth i chi fynd, gan gynnwys cofeb y Llyngesydd Nelson a phlasty crand yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plas Newydd.

Cinio: Mae sawl cynnig o ginio blasus mewn tafarn neu gaffi ym Mhorthaethwy.
Ar ôl cinio, ewch tua’r de-orllewin ar hyd yr xA5/A4080 tuag at Frynsiencyn. Ryw filltir ar ôl pasio’r dref, trowch i’r chwith a dilyn yr arwydd brown ar hyd is-ffordd i Ganolfan Farchogaeth Ynys Môn ar lannau Afon Menai.
Dyma fan cychwyn 5 milltir/8km o lwybrau marchogaeth arfordirol preifat, gyda golygfeydd trawiadol ar draws y dŵr i Gastell Caernarfon a chopaon Eryri y tu hwnt. Dewiswch o blith hacnai a theithiau 1–1½ awr, yn amrywio o drotian hamddenol i ddechreuwyr i garlamu’n gyflym ar hyd y traeth (i farchogwyr mwy profiadol).