Mae Biwmares brysur yn drysor pensaernïol, gydag ongl forol. Ar hyd y glannau, mae’r Sioraidd yn asio i’r Fictoraidd (gydag awgrym o’r Tuduraidd hefyd). Wrth ben y brif stryd, mae pensaernïaeth ganoloesol fawreddog i’w mwynhau yng Nghastell Biwmares, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, nad oedd modd cyrraedd ei giât ddeheuol ond ar long ‘slawer dydd.
Wrth y fynedfa ogleddol i Afon Menai, mae Biwmares yn ganolfan hwylio boblogaidd – a hefyd yn denu tyrfaoedd i fwynhau golygfeydd ysgubol ar draws y Fenai i dir mawr Cymru, o’r promenâd a’r pier.
O Fiwmares, gyrrwch ar hyd y Fenai i Borthaethwy, tref fach brydferth sy’n enwog am ei chysylltiadau â’r arloeswr Thomas Telford a ddyluniodd Bont y Borth, a agorodd ym 1826. Galwch yn amgueddfa Treftadaeth Menai i glywed y stori lawn, ac os oes gennych ddigon o amser cerddwch ar hyd llwybr yr arfordir i’r Bont Britannia fodern.
Cinio: O goginio cosmopolitan i fwyd tafarn traddodiadol, mae gan Borthaethwy ddigon i'w gynnig.
Dilynwch yr A4080 i Niwbwrch ac mae’n siŵr y cewch chi eich syfrdanu. Yn gyntaf – yn bur annisgwyl – gyrrwch oddi ar y brif ffordd drwy goedwig goniffer. Mae’r coed yn teneuo i ddatgelu traeth anferth (mae ‘na dollffordd yn arwain drwy’r goedwig tua’r traeth, yn ogystal â dewis o feysydd parcio) gyda golygfeydd godidog i Gastell Caernarfon.
Cerddwch ymhellach ar hyd y traeth ac fe ddewch at Ynys Llanddwyn, un o lecynnau mwyaf hudolus Ynys Môn. Ar yr ynys hon, y gallwch ei chyrraedd ar droed ac eithrio gyda’r penllanw, mae adfeilion Eglwys Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru (mae Dydd Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu ar 25 Ionawr).
A dweud y gwir, fe allech dreulio’r diwrnod cyfan yn Niwbwrch. Yn ogystal â’r goedwig a’r traeth, mae Cwningar Niwbwrch, sy’n rhan o’r Warchodfa Natur Genedlaethol arfordirol gyntaf yng Nghymru (dynodwyd ym 1995) sy’n cynnig amrywiaeth o lwybrau cerdded.
Ailymunwch â’r A4080 ar gyfer Malltraeth, pentref bach wrth ymyl bae mawr o dywod a gwlyptir. Fel Niwbwrch, mae’n gyfoeth o fywyd gwyllt – ysbrydolwyd y darlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe gan Falltraeth, ac mae ei waith i’w weld yn Oriel Môn, Llangefni.
Nesaf mae Aberffraw, pentref â thwyni y naill ochr iddo sy’n cwrdd â’r môr yn Nhraeth Mawr – traeth heddychlon go anghysbell. Parciwch yn y pentref a cherddwch drwy’r twyni i Draeth Mawr.