Ar gyfer Bae Cemlyn, gweler taith arfordirol Gorllewin Ynys Môn.
Cemaes, ger Bae Cemlyn, yw pentref mwyaf gogleddol Cymru. Mae’n llecyn prydferth iawn, gyda chei cysgodol o gerrig a chilgant perffaith o dywod. Mae llawer o’r arfordir yma o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys y pentir ger Llanbadrig sy’n edrych dros y fynedfa ddwyreiniol i Fae Cemaes, lle saif eglwys hynafol a gysegrwyd i San Padrig, nawddsant Iwerddon.
Dilynwch yr A5025 i Borth Llechog, cildraeth cysgodol a phentref bach sy’n swatio ynghanol arfordir gogleddol garw Ynys Môn.
Yna ymlaen â chi i Amlwch. Mae’n anodd dychmygu’r oes a fu, pan roedd harbwr cul, cysgodol Amlwch (nad ydyw, a dweud y gwir, yn hafan hwylus iawn) yn un o borthladdoedd prysuraf Cymru, yn allforio symiau anferthol o fwyn copr o Fynydd Parys gerllaw. Sut gwnaethon nhw lwyddo?
Mae stori dymhestlog Amlwch y 18fed a’r 19eg ganrif, anterth ‘y Gorllewin Gwyllt’ – yn ôl y sôn roedd gan y 6,000 o drigolion ddewis o dros 1,000 o dafarndai – yn cael ei hadrodd yng nghanolfannau treftadaeth y Deyrnas Gopr a’r Llofft.
Nid yw’r adeilad anarferol sy’n edrych fel corff llong â’i ben i waered yn gysylltiedig â’r llongddrylliadau y soniwyd amdanynt gynt. Yn wir, eglwys Gatholig ydyw, a adeiladwyd yn y 1930au.
Cinio: Mae gan Amlwch sawl caffi ar gyfer coffi gourmet a nwyddau cartref.