
Beicio a cherdded: Ar dy feic
Diolch i’w maint a’i thirwedd wastad (ar y cyfan), beicio yw un o’r ffydd gorau i deuluoedd a beicwyr mwy profiadol ddod i nabod Ynys Môn.

Llangefni, yn y canolbarth, yw’r ganolfan seiclo berffaith, yn cynnig mynediad hawdd i’r llwybrau amrywiol sy’n cris-croesi’r ynys. Mae hefyd yn gartref i Cycle Wales, lle gallwch logi’ch olwynion eich hun os nad ydych wedi dod â’ch beic gyda chi. Gallwch gasglu eich beic o’r siop neu gallant ddod ag ef i’ch llety ar yr ynys.
Mae cwmnïau llogi beics eraill yr ynys, megis Blu Chameleon, Bae Trearddur.

Llwybrau i’w taclo ar eich beic
Lôn Las Cefni (13 milltir/21km)
Mae’r llwybr hamddenol hwn, sydd oddi ar y ffordd yn bennaf, yn un o ffefrynnau’r teulu (mae bron i 80% ohono’n ddi-draffig). Yn cysylltu Llangefni â Malltraeth ym mhen de-ddwyreiniol Ynys Môn, mae’n pasio drwy goetir hynafol Gwarchodfa Natur y Pandy ac ar hyd glannau Llyn Cefni.
Y Llwybr Copr (34 milltir/55km)
Yn un o lwybrau beicio mwy heriol Ynys Môn, mae’r Llwybr Copr yn teithio drwy ogledd yr ynys. Byddwch yn pasio baeau bendigedig Cemlyn a Chemaes, y gwaith copr yn Amlwch a thirweddau arallfydol Mynydd Parys (gwaith copr mwya’r byd un tro), lle cafodd y llwybr hwn ei enw.
Llwybr Beicio Gogledd Cymru NCN 5 (34 milltir/55km)
Mae Llwybr Beicio Gogledd Cymru, sy’n 105 milltir/169km o hyd, yn dechrau yng Nghaergybi ac yn croesi’r ynys ar ei ffordd i Borthaethwy, ac yna ymlaen drwy dir mawr Gogledd Cymru i Gaer. Ar gymal Môn fe basiwch Felin Llynon, yr unig felin wynt weithiol yng Nghymru, cyn beicio drwy galon yr ynys.
Lôn Las Cymru (29 milltir/47km)
Yn ymestyn 250 milltir/402km yr holl ffordd i Gaerdydd yn y de, mae Lôn Las Cymru yn cychwyn yng Nghaergybi. Ar gymal Môn mae’n teithio ar hyd lonydd gwledig tawel – reid hamddenol sy’n rhoi digon o gyfle i chi fwynhau’r golygfeydd a darganfod rhywfaint o fywyd gwyllt toreithiog yr ynys.

Cod Beicio Da
- Ufuddhewch i reolau’r ffordd
- Byddwch yn gwrtais
- Ildiwch i gerddwyr
- Cofiwch fod rhai pobl yn drwm eu clyw neu â nam ar y golwg
- Ildiwch i ddefnyddwyr cadair olwyn neu farchogion
- Canwch gloch neu gweiddwch yn gwrtais i rybuddio eich bod yn dod
- Gofalwch am yr amgylchedd
- Allwch chi gyrraedd eich man cychwyn ar feic neu drafnidiaeth gyhoeddus?
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad; drwy barchu cnydau, da byw a bywyd gwyllt yn arbennig, ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi
- Gofalwch am eich hun
- Byddwch yn ofalus iawn wrth gyffyrdd, wrth feicio i lawr allt ac ar arwynebau rhydd
- Mewn ardaloedd anghysbell, cariwch fwyd, offer trwsio, map a dillad gwrth-ddŵr
- Gwnewch yn siŵr bod eich beic yn addas i’r ffordd; defnyddiwch oleuadau mewn tywydd gwael
- Gwisgwch helmed a dillad amlwg