
Byw ar y dibyn
Gyda nythfeydd neilltuol o adar môr, rhydwyr ac adar ysglyfaethus anhygoel, mae ochr orllewinol Ynys Môn yn baradwys i adar-garwyr.

Dechreuwch eich dydd ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi, sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd, tua milltir i’r gorllewin ar hyd is-ffordd o Gaergybi. ‘Slawer dydd roedd yn chwarel, yn cynhyrchu cerrig ar gyfer y morglawdd sy’n gwarchod porthladd prysur Caergybi, ond erbyn heddiw mae wedi’i atgyfodi fel hafan heddychlon i bob math o fywyd gwyllt.
Mae llwybrau cerdded a llwybrau natur yma ac acw ar hyd y parc. Ar eich taith, fe allech weld hebogiaid a brain coesgoch yn plymio o’u nythod yn yr hen chwareli, yn ogystal â chrehyrod, cotieir a hwyaid gwylltion yn chwilio am fwyd yn y llynnoedd a’r pyllau. Ar hyd y rhostir arfordirol, mae gwenyn a phili-palod yn cael eu denu gan degeirianau prin a’r glustog Fair binc lachar, tra bod heidiau o ddolffiniaid a llamidyddion yn llamu i’w gweld yn y môr o dro i dro.
O’r parc, ewch yn ôl i Gaergybi cyn dilyn Ffordd Ynys Lawd tua’r gorllewin ar is-ffordd tua’r arfordir y tu draw i Fynydd Tŵr. Yma fe welwch glogwyni geirwon Ynys Lawd, sy’n fwrlwm o adar. Canolfan yr RSPB yn Nhŵr Elin yw’r lle delfrydol i weld nythfeydd enfawr o wylogod, palod, llursod a brain coesgoch (yn ogystal â’r hebogiaid sy’n eu hela).
Os oes gennych ddigon o amser (a digon o egni), dilynwch y 400 o risiau i lawr ochr y clogwyni i ymweld â Goleudy Ynys Lawd. Yn eistedd ar ynys fechan sydd wedi’i chysylltu â’r tir gan bont droed, mae’n un o dirnodau eiconig Môn gyda golygfeydd gogoneddus ar hyd yr arfordir creigiog a thua’r gorwel.
Fel arall, ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru/Llwybr Arfordir Môn i Ynys Arw (tua 4 milltir/6.5km yna ac yn ôl) am fwy o olygfeydd gwych o’r dyfroedd ac adar arbennig y môr.
Dilynwch yr is-ffordd tua’r de-ddwyrain ar hyd yr arfordir i Fae Trearddur, a’r B4545 ar gyfer Fali am ginio.
Dychwelwch i Fae Trearddur (dim ond 3 milltir/5km) i orffen eich dydd yng Ngwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru Porth Diana (parciwch yn Ravenspoint Road a cherddwch bellter byr ar hyd y bae i’r warchodfa). Yn laswellt a rhostir, mae’n gynefin i rywogaethau anarferol o blanhigion fel y tegeirian brych, gellesgen felen y gerddi a charpiog y gors (yn ogystal â gre fechan o ferlod arfordirol yn pori).