Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Cemlyn-beach

Cefn gwlad ac arfordir Cemlyn

Mae Bae Cemlyn yn enwog am ei adar. Ond mae hefyd yn cynnig harddwch naturiol trawiadol a chyfoeth o fywyd gwyllt arall. Mae hon yn daith hanner diwrnod sy’n berffaith i lenwi bore neu brynhawn.

Cemlyn-beach
Cychwyn o
Cemaes
Gorffen yn
Porth Swtan
Pellter
Tua 12 milltir

Ewch tua’r gorllewin ar yr A5025 o Gemaes, pentref mwyaf gogleddol Ynys Môn. Cyn pen milltir (yn Nhregele) dilynwch yr is-ffordd i’r dde i Fae Cemlyn, un o nodweddion naturiol nodedig yr ynys, sy’n enwog am ei fywyd gwyllt a’i harddwch. Mae ‘na ddau faes parcio yn neupen y bae.

Mae’n lle digon anarferol. Mae’r bae wedi’i gysgodi rhag y gwynt a’r tonnau, nid dim ond gan y pentiroedd creigiog ar y naill ochr iddo, ond hefyd gan gefnen hir o raean sy’n amddiffyn morlyn hallt mawr. Mae hwn yn gynefin pwysig i adar môr, gan gynnwys yr unig nythfa o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru.

Mae’n un o safleoedd mwyaf poblogaidd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Ac nid dyna ddiwedd ei arwyddocâd. Mae Bae Cemlyn hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Ac, ynghyd â gweddill arfordir Môn, mae’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, ydy, mae’n ddigon arbennig.

Rydym yn sôn yn fanylach am adar arbennig Bae Cemlyn fel rhan o lwybr I’r Gwyllt Gogledd Ynys Môn. Ar y daith hon, rydym yn canolbwyntio ar rinweddau eraill y bae. Mae’r gefnen raeanog (Esgair Cemlyn), er enghraifft, yn gynefin pwysig i blanhigion arbenigol fel yr ysgedd arfor, y gludlys arfor a’r pabi corniog melyn.

Tua’r tir, mae ardaloedd o eithin, grug a glaswelltir yn denu pili-palod ac ysgyfarnogod. Ac, yn ogystal â’r bywyd gwyllt enwog, mae blodau gwyllt a thegeirianau wedi dotio ar y dirwedd yma hefyd. Trowch eich golygon tua’r gorwel ac fe allech weld morloi llwydion a dolffiniaid trwynbwl.

O Fae Cemlyn, ailymunwch â’r A5025 tua’r de am tua 5 milltir/8km, gan droi i’r dde i’r is-ffordd drwy Rydwyn i Borth Swtan.

Mae’n siŵr y bydd awyr iach Bae Cemlyn yn codi awydd bwyd arnoch, ac mae digon i borthi’r pum mil ym Mhorth Swtan.