Dyma’r lle enwocaf yn Ynys Môn, mae’n siŵr. Dyma’r enw enwocaf yng Nghymru, yn sicr. Ry’n ni’n sôn, wrth gwrs, am Lanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, sy'n golygu ‘Eglwys y Santes Fair ger yr aethnen wen, uwchben y pwll tro ac Eglwys Sant Tysilio ger yr ogof goch.’
Gyda 51 o lythrennau, dyma’r enw hiraf yng ngwledydd Prydain ac un o’r hiraf yn y byd. Does ryfedd fod y trigolion lleol wedi’i fyrhau i Lanfairpwll, Llanfairpwllgwyngyll neu yn syml, Llanfair PG. Am lun lens llydan, galwch yn yr orsaf reilffordd lle mae’r enw i’w weld yn llawn.
Fe’i gwelwch yn ei lawn ogoniant drws nesaf hefyd, yn James Pringle Weavers, siop na ddylech ei cholli. A dweud y gwir, mae’n fwy o emporiwm enfawr na siop arferol, yn llawn dillad, bwyd, bagiau, esgidiau, teganau, offer golff, rhoddion... mae’r rhestr yn ddi-ben-draw, fel enw’r dref...
Ar ochr arall y sbectrwm mae Candle Alchemist (hefyd yn Llanfairpwllgwyngyll) sy’n canolbwyntio ar un peth yn unig (ie, dyna chi...). Mae’n weithdy lle gallwch ddysgu sut i wneud eich canhwyllau eich hun (bydd angen i chi drefnu ymweliad ymlaen llaw).
O Lanfairpwllgwyngyll, dilynwch yr A5 tua’r gorllewin i Gaerwen.