Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Mur caer Rufeinig yng Nghaergybi

Grym y gwynt a'r glannau

Gyda hanes morol cyfoethog, adfeilion Rhufeinig, henebion dirgel a melinau gwynt troellog, mae gorllewin Ynys Môn yn gyfoeth o dreftadaeth

Mur caer Rufeinig yng Nghaergybi
Cychwyn o
Caergybi
Gorffen yn
Llanddeusant
Pellter
Tua 25 milltir

Dechreuwch eich taith drwy ddarganfod y Gaergybi hanesyddol. Diolch i’w lleoliad ar lannau Môr Iwerddon, mae wedi bod yn borthladd a harbwr prysur ers canrifoedd. Plymiwch i’w gorffennol cyfoethog yn Amgueddfa Forol Caergybi sy’n edrych dros draeth tlws Newry.

Mae’n llawn hanesion morol o longddrylliadau, môr-ladron a chriwiau bad achub mentrus – i gyd wedi’u hadrodd drwy gasgliad diddorol o arteffactau ac arddangosfeydd. Cewch weld modelau manwl o’r llongau sydd wedi docio yma, ymweld â lloches cyrch awyr go iawn i ddysgu am Gaergybi’r Ail Ryfel Byd, a gweld ffosil asgwrn gên mamoth, a dyrchwyd i’r wyneb gan weithwyr yn yr harbwr ym 1864.

Cerddwch bellter byr ar hyd y glannau a’r harbwr at gaer Rufeinig Cybi. Yn dyddio’n ôl i’r 3ydd ganrif, mae Caer Gybi yn rhan o rwydwaith o amddiffynfeydd arfordirol a ddefnyddiwyd i oruchwylio’r moroedd yn y rhan hon o Gymru.

Heddiw, mae ei waliau a’i thyrau, sydd mewn cyflwr da, yn amgylchynu eglwys hynafol Cybi, a sefydlwyd yma yn OC540 ar ôl i’r gaer gael ei gadael gan ei chyn-feddianwyr. Er gwaethaf hanes tymhestlog o ddifrod dan law’r Llychlynwyr, lluoedd Harri’r IV a byddin Oliver Cromwell, mae’r eglwys yn dal i gynnwys sawl nodwedd nodedig – gan gynnwys y bwrdd cymundeb Tuduraidd gwreiddiol a chapel Fictoraidd trawiadol.

Dilynwch yr A55 (Gwibffordd Gogledd Cymru) tua’r dwyrain, allan o’r dref, cyn troi i’r A4080 tuag at Rosneigr a Barclodiad y Gawres, un o henebion mwyaf trawiadol Ynys Môn. Ar bentir creigiog, dafliad carreg o’r ffordd (mae ‘na le parcio gerllaw ym Mhorth Trecastell), mae beddrod Neolithig yn eistedd o dan dwmpath pridd sy’n mesur 27m mewn diamedr. Yn y siambr dywyll yn y canol mae pum carreg wedi’u harysgrifio gyda chyfres o linellau igam-ogam a throellau manwl; enghreifftiau prin o gelf gynhanesyddol a grëwyd filoedd o flynyddoedd yn ôl at ddibenion seremonïol sydd wedi hen fynd yn angof.

Yn olaf, dychwelwch tua’r tir mawr i’r gyffordd â’r A55 cyn dilyn y B5112 tua’r gogledd, gan droi i’r chwith wrth y gyffordd â’r B5109, ac yna i’r dde yn syth (ar ôl tua thraean o filltir) ar yr is-ffordd i’r gogledd i bentref bychan Llanddeusant.

Yma fe welwch Felin Llynon, yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru. Wedi’i hadeiladu ym 1775, mae’n dal i falu blawd – sydd nawr yn cael ei ddefnyddio i wneud y bara a’r teisennau blasus sy’n cael eu pobi yma bob dydd. Yn ogystal â gweld y felin wynt ar waith, gallwch ddarganfod dau dŷ crwn o Oes yr Haearn, sy’n cynnig blas ar fywydau ffermwyr Ynys Môn dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.