
Llwybrau’r annisgwyl: Gerddi cudd, bedd brenhinol a blas unigryw o'r môr
Gyda gerddi cudd, coes chwedlonol, un o enwau hira’r byd a charreg fedd brenin o’r 7fed ganrif, mae de Ynys Môn yn storfa o straeon syfrdanol.

I ddechrau, treuliwch ychydig oriau’n darganfod gerddi cudd Plas Cadnant, sy’n eistedd ar fryn tawel uwchlaw Afon Menai. Mae’r llecyn gwyrdd godidog hwn, a gollwyd ynghanol isdyfiant yn y gorffennol, yn ystâd Sioraidd 200 erw/81ha o faint sydd wedi’i hailddarganfod a’i hatgyfodi drwy waith adfer helaeth.
Mae tair gardd mewn un yma – gardd furiog â waliau crwm anarferol, gardd goetir garegog a dyffryn-ardd sy’n cartref i gyfres o raeadrau byrlymog. Mae’r gwaith adfer yn dal i ddigwydd, felly mae’n siŵr bod mwy o gyfrinachau’n aros i gael eu darganfod.
Teithiwch drwy Borthaethwy tuag at Lanfairpwllgwyngyll ar yr A5. Wrth gyrraedd y dref, fe welwch drac byr yn arwain at faes parcio ar y dde (lleoliad what3words.com: union.narrate.guests). O’r fan hon, cerddwch y pellter byr i fyny’r bryn coediog i Dŵr Marcwis.
Wedi’i hadeiladu ym 1817, mae’r gofeb 27m hon yn coffáu Henry William Paget, Marcwis 1af Môn. Wedi iddo gael ei daro gan ganon ym Mrwydr Waterloo, mae’n debyg iddo ymateb gyda’r geiriau cynnil, “Duw duw, syr, dwi wedi colli ‘nghoes i!’. Ar ôl iddo ddychwelyd adref, cafodd Paget goes bren a oedd yn rhyfeddod peirianyddol – prosthetig mwyaf datblygedig yr oes. Mae ‘Coes Môn’, fel y caiff ei galw, bellach i’w gweld – ochr yn ochr â llwyth o drysorau eraill – ym Mhlas Newydd gerllaw, cyn-gartref y Marcwis sydd bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Tra’ch bod chi yn yr ardal, galwch draw i orsaf drenau Llanfairpwllgwyngyll ychydig yn bellach ar hyd y ffordd i dynnu llun gyda’r arwydd o enw enwog y dref. Gyda 51 o lythrennau, hwn yw’r enw hiraf yn y DU (a’r ail hiraf yn y byd).
Gadewch Lanfairpwllgwyngyll ar hyd yr A4080 i Frynsiencyn, gan fynd tua’r chwith wrth gyrraedd y dref a dilyn yr arwyddion brown ar gyfer Halen Môn a’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r busnes bwyd clodwiw hwn, a ddechreuodd ar ôl i badell o ddŵr môr gael ei gadael i ferwi ar stôf, wedi dod yn frand byd-eang adnabyddus.

Ar ôl cinio, ewch ar daith y tu ôl i’r llenni i ddysgu popeth am y broses o gasglu halen môr o ddyfroedd dedwydd yr ynys a darganfod sut daeth yr halen unigryw i fod ar fyrddau rhai o fwytai gorau’r byd.
Teithiwch ar hyd yr arfordir am ychydig gannoedd fetrau cyn ei throi hi am y tir mawr ar y B4419 am ryw filltir ac ailymuno â’r A4080. Parhewch drwy Niwbwrch a Malltraeth i Eglwys Sant Cadwaladr yng nghyffiniau Aberffraw.
Dyma fan gorffwys y Brenin Cadfan o Wynedd, a fu farw tua OC625 yn fuan wedi i’r eglwys gael ei sefydlu. Wedi’i gosod ar wal ogleddol yr eglwys, fe welwch garreg fedd gerfiedig gydag arysgrifiad sy’n darllen 'Catamanus rex sapientisimus opinatisimus omnium regum' (‘Brenin Cadfan, y doethaf a’r mwyaf clodfawr o’r holl frenhinoedd’). Arysgrifiad Carreg Cadfan yw’r hynaf yng Nghymru, a dyma’r garreg fedd gynharaf sy’n cario’r groes Geltaidd, yn ôl y tebyg.