Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Goleudy Penmon wedi'i amgylchynu gan y môr gydag ynys Seiriol yn y pellter

Prydferthwch Penmon

Rhanbarthau

Mae hon yn daith hanner diwrnod. Ceisiwch ddechrau arni yn y bore, gan orffen gyda phicnic ar lan y môr yn Nhraeth Lleiniog.

Goleudy Penmon wedi'i amgylchynu gan y môr gydag ynys Seiriol yn y pellter
Cychwyn o
Penmon
Gorffen yn
Traeth Lleiniog
Pellter
Tua 3.5 milltir

Mae’r daith hon yn fêl ar ein bysedd (neu fys o leiaf). Mae bys o dir yn ymwthio i’r môr ym mhen de-ddwyreiniol Ynys Môn, gan ddod i ben ym mhentir Trwyn Du ac Ynys Seiriol.

Dechreuwch eich taith ym Mhriordy Penmon, ryw 4 milltir/6.5km i’r gogledd o Fiwmares. Mae’n safle hanesyddol â thair elfen mewn un: priordy, ffynnon sanctaidd a cholomendy (mae yna faes parcio cyfleus yma).

Mae’r priordy canoloesol yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, pan gafodd ei sefydlu gan Sant Seiriol. Mae’r hyn a welwn heddiw’n tarddu’n bennaf o’r 13eg ganrif pan ad-drefnwyd y gymuned Geltaidd o dan Reolaeth Awstinaidd. Y tu mewn i’r eglwys (sy’n dal i wasanaethu’r plwyf), fe welwch groes gain, urddasol yn dyddio o’r 10fed ganrif.

Mae’r ffynnon sanctaidd â’i nodweddion iachaol honedig yn dwyn enw Seiriol, ac mae’n debyg ei bod yn dyddio o’i gyfnod.

Trydedd nodwedd hanesyddol Penmon yw’r colomendy trawiadol â’i do crwn enfawr, a adeiladwyd o gwmpas 1600, sydd â lle i bron 1,000 o adar.

O’r fan hon, dilynwch y dollffordd i’r gogledd-ddwyrain i Drwyn Du. Mae’r pentir, wrth y fynedfa i Afon Menai, yn gartref i oleudy a adeiladwyd ym 1838. Treuliwch amser yn mwynhau’r golygfeydd ysgubol i dir mawr Cymru ac Eryri. Mae hefyd yn lle gwych i weld dolffiniaid, llamidyddion a morloi Ynys Seiriol.

Dychwelwch i Benmon ac yna dilynwch yr is-ffordd ar hyd yr arfordir am ryw filltir i Draeth Lleiniog. Mae’r traeth hir hwn o dywod a graean, yn ôl un adolygiad, yn ‘lle trawiadol heddychlon am bicnic’. Ry’n ni’n cytuno i’r carn. Ewch i’r maes parcio a’r ardal bicnic ym mhen deheuol y traeth am ginio i’w gofio (croeswch eich bysedd am y tywydd).