Mae Bryn Celli Ddu yn dal i hudo archeolegwyr ac ieithyddion.
Tomen fawr ydy hi yn cynnwys bedd dramwyfa, ond ei dwy gladdfa sy'n hynod, un wedi ei hadeiladu ar ben y llall, sy'n awgrymu newid credo yn ystod y cyfnod Neolithig. Roedd y gladdfa gyntaf yn hengor, cylch cerrig canolig nas ceir yn aml yng Nghymru. Mae'r ail gladdfa, siambr, carnedd a bedd dramwyfa yn gorchuddio'r gyntaf yn gyfangwbl, ac mae'n debygol ei bod yn un o'r beddrodau megalithig olaf i gael ei hadeiladu ar Ynys Môn.
Am fanylion pellach gweler safle we CADW.

