Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Pont bren dros yr afon yn y Dingle gyda'r afon yn llifo a choed o'i chwmpas

Natur Leol, Nant y Pandy Llangefni

Pont bren dros yr afon yn y Dingle gyda'r afon yn llifo a choed o'i chwmpas

Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn.

Gwaith i adnewyddu llwybr pren

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid grant er mwyn amnewid y llwybr pren presennol am strwythur newydd.

Bydd y llwybr newydd wedi’i wneud allan o blastig cynaliadwy wedi’i ailgylchu gan sicrhau oes llawer hirach i’r llwybr newydd o gymharu â’r llwybr presennol sydd wedi’i fwynhau gan gynifer o bobl dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Rhannau o'r llwybr pren ar gau

Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd rhannau o'r llwybr pren ar gau i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod adeiladu.

Rydym yn gwerthfawrogi’r anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi i’r bobl sy’n mwynhau cerdded y safle’n rheolaidd ond bydd gosod 1,000 metr o lwybrau yn cymryd amser. Disgwylir i'r gwaith gael ei orffen erbyn Hydref 2025.

Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt

  • Bydd angen cau rhannau o'r llwybr pren yng Ngwarchodfa Natur Leol Dingle i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod adeiladu.
  • Gellir dal cael mynediad i’r safle drwy lwybr beicio Lôn Las Cefni a bydd ardal Coed Smyrna hefyd yn parhau i fod ar gael o’r llwybr beicio. Mae dolen o'r llwybr pren newydd ei adeiladu ar agor i'r cyhoedd ond bydd rhannau sy'n cysylltu'r safle â Maes Parcio'r Orsaf yn parhau ar gau.
  • Ni fydd y gwaith parhaus i osod y llwybrau pren newydd yn effeithio ar y digwyddiad Park Run wythnosol a gynhelir yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Gwybodaeth wreiddiol yn y dudalen hon

Ceir mynediad rhwydd i Nant y Pandy o Langefni ac mae llwybr beicio Lôn Las Cefni yn mynd drwy’r warchodfa. Mae’r warchodfa yn lle braf i gerdded drwyddi ar hyd y llwybrau, llwybrau troed a llwybrau pren. Mae nifer o gerfluniau pren diddorol mewn gwahanol fannau yn y coetir.

Mae Nant y Pandy yn fan da i weld adar y coetir yn ogystal â rhai sy’n ffafrio cynefin afonol. Mae’r mathau o adar y coetir y gellir eu gweld yn cynnwys y gnocell fraith fwyaf, coch y berllan, y titw mawr, y robin goch a’r dryw bach. Yn nes at yr afon efallai y gallwch weld glas y dorlan gwibiog neu fronwen y dŵr yn siglo i fyny ac i lawr ar graig yn yr afon cyn plymio i’r dŵr i ddal larfa pryfetach dyfrol. Mae’r iâr ddŵr a’r hwyaden wyllt yn nythu ar yr afon a gwelir y crëyr glas, y fulfran a’r siglen lwyd yn aml.

Mae’r afon yn cynnal poblogaethau o frithyll, llyswennod a’r eog, ac mae un o’u prif ysglyfaethwyr, y dyfrgi yn aml yn chwilio’r ardal yn chwilio am ei ysglyfaeth. Mae’r warchodfa yn hafan i ystlumod a chofnodwyd rhywogaethau fel yr ystlum pedol lleiaf, yr ystlum barfog, yr ystlum hirglust ac ystlum Natterer. Mae planhigion nodweddiadol y coetir yn cynnwys clychau’r gog, llygad Ebrill a blodyn y gwynt gyda’r gellesg, gold y gors a’r erwain i’w gweld yn y mannau gwlypaf. Mae rhywogaethau o goed pwysicaf y coetir yn cynnwys y dderwen, yr onnen, pinwydden yr Alban, ffawydd a’r gastanwydden bêr. Mae hefyd dros 200 o rywogaethau o ffwng ac mae rhai ohonynt yn brin yn genedlaethol yng Nghymru.

Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn.

Mae gwarchodfa natur goediog Nant y Pandy yn ffurfio rhan o ddyffryn yr Afon Cefni sy’n llifo drwy ganol tref Llangefni, tref sirol Môn. Ceir mynediad rhwydd i Nant y Pandy o Langefni ac mae llwybr beicio Lôn Las Cefni yn mynd drwy’r warchodfa. Mae’r warchodfa yn lle braf i gerdded drwyddi ar hyd y llwybrau, llwybrau troed a llwybrau pren. Mae nifer o gerfluniau pren diddorol mewn gwahanol fannau yn y coetir.

Mae Nant y Pandy yn fan da i weld adar y coetir yn ogystal â rhai sy’n ffafrio cynefin afonol. Mae’r mathau o adar y coetir y gellir eu gweld yn cynnwys y gnocell fraith fwyaf, coch y berllan, y titw mawr, y robin goch a’r dryw bach. Yn nes at yr afon efallai y gallwch weld glas y dorlan gwibiog neu fronwen y dŵr yn siglo i fyny ac i lawr ar graig yn yr afon cyn plymio i’r dŵr i ddal larfa pryfetach dyfrol. Mae’r iâr ddŵr a’r hwyaden wyllt yn nythu ar yr afon a gwelir y crëyr glas, y fulfran a’r siglen lwyd yn aml.

Mae’r afon yn cynnal poblogaethau o frithyll, llyswennod a’r eog, ac mae un o’u prif ysglyfaethwyr, y dyfrgi yn aml yn chwilio’r ardal yn chwilio am ei ysglyfaeth. Mae’r warchodfa yn hafan i ystlumod a chofnodwyd rhywogaethau fel yr ystlum pedol lleiaf, yr ystlum barfog, yr ystlum hirglust ac ystlum Natterer. Mae planhigion nodweddiadol y coetir yn cynnwys clychau’r gog, llygad Ebrill a blodyn y gwynt gyda’r gellesg, gold y gors a’r erwain i’w gweld yn y mannau gwlypaf. Mae rhywogaethau o goed pwysicaf y coetir yn cynnwys y dderwen, yr onnen, pinwydden yr Alban, ffawydd a’r gastanwydden bêr. Mae hefyd dros 200 o rywogaethau o ffwng ac mae rhai ohonynt yn brin yn genedlaethol yng Nghymru.

Am fwy o fanylion gwelwch safle we Cyngor Sir Ynys Môn.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Dingle, Llangefni

Mwynderau

  • Hygyrch i'r anabl.
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Parcio ar gael.
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw

gerllaw...