Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Llongdrylliad ar traeth dulas ar llanw isel

Traeth Dulas

Llongdrylliad ar traeth dulas ar llanw isel

Traeth Dulas yw aber yr Afon Goch sy’n llifo i’r môr ym Mae Dulas.

Mae wedi ei leoli ger pentref City Dulas.

Aber amgaeedig yw Traeth Dulas gyda morfa heli eang a thraethell mwd a thywod pan fo’r llanw ar drai. Mae’r ardal yn cynnal amrywiaeth eang o adar môr, adar y glannau, rhydwyr ac adar hela gan gynnwys gwylanod, pibydd y mawn, cwtiad y traeth a’r chwiwell.

Yn y gaeaf y prif adar a welir yw’r gwylanod a’r rhydwyr. Gellir gweld y gylfinir ar y dolydd ger y safle, a gellir gweld y pibydd du a rhydwyr bach eraill ar y lan tuag at ochr y môr o’r tafod o raean. Mae adar ysglyfaethus gan gynnwys yr hebog tramor a’r cudyll bach yn hela ar draws yr aber tra gellir gweld y boda tinwyn a’r dylluan wen yn patrolio ymylon y bae.

Yn yr haf mae’r aber yn cynnal amrywiaeth o adar sy’n magu ac mae llawer ohonynt yn defnyddio’r ardal i nythu, bwydo a magu eu cywion. Mae enghreifftiau yn cynnwys pioden y môr, hwyaden yr eithin, y pibydd coesgoch, yr hwyaden frongoch a’r cwtiad torchog. Mae’r fôr-wennol bigddu a’r crëyr glas sy’n bridio’n lleol yn ymweld yn gyson â’r safle fel mae’r hwyaden wyllt a’r gornchwiglen.

Mae’r draethell leidiog a’r lleiniau rhynglanw yn cynnal amrywiaeth mawr o rydwyr ac adar hela. Mae’n bosibl parcio ar ochr orllewinol yr aber ond byddwch yn ymwybodol fod yr ardal i gyd dan ddŵr ar lanw uchel, felly mae’n werth gwirio amseroedd y llanw’n lleol cyn ymweld rhag ofn i chi gael ei dal gan y llanw.

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Traeth Dulas, City Dulas, Anglesey

gerllaw...