Mae wedi’i leoli i’r dwyrain o bentref Aberffraw, yr ochr bellaf i’r Afon Ffraw. Dynodwyd y twyni ynghyd â’r Traeth Mawr a Llyn Coron (ar ochr ddwyreiniol y system o dwyni tywod) fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae’r ardal hefyd yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) twyni Abermenai i Aberffraw.
Mae mynediad agored (ar droed) i’r twyni ac mae man parcio ar yr ochr orllewinol, ychydig oddi ar briffordd yr A4080. Mae bwyd ar gael yn Aberffraw yng nghanolfan ymwelwyr a chaffi Llys Llewelyn (sydd ar agor yn ystod y prif dymor ymwelwyr). Mae’r cynefinoedd amrywiol yn cynnal nifer o blanhigion a phryfetach diddorol, gan gynnwys rhai rhywogaethau prin fel tafol y traeth a llysiau’r afu petalog (math prin o lysiau’r afu). Mae’r safle’n cefnogi un o gymunedau mwyaf o amdowellt yng Nghymru, ac mae digon o gelyn y môr ym mhen deheuol y twyni symudol.
Mae’r mathau o blanhigion y gellir eu canfod yn y twyni sefydlog yn cynnwys peiswellt coch, briwydd felen, moresg ac eiddilwellt cynnar.
Mae rhai o’r llaciau (y mannau isel rhwng y twyni) yn cynnwys llawer o gorhelyg, ynghyd ag amrywiaeth o blanhigion blodeuol sy’n cynnwys tegeirianau’r gors, tegeirian bera a’r galdrist.
Mae’r safle’n gyfoethog iawn mewn anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a hefyd yn cynnal y frân goesgoch a chornchwiglod ac ehedydd sy’n bridio. Mae Llyn Coron yn cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid y dŵr, gan gynnwys y gwybybyr wythfrigerog, dyfrllys blewynnaidd a misglen yr elyrch.
Mae’r Afon Ffraw yn cynnal crafanc-y-frân yr afon, rhywogaeth sy’n bwysig yn rhyngwladol ac sy’n ffynnu mewn afonydd bas sydd â dŵr glân sy’n gyfoethog mewn ocsigen ac yn llifo’n gyflym.