Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Golygfa o'r awyr o Gastell Biwmares yn dangos amddiffynfeydd a phrif borthdy

Castell Biwmares

Golygfa o'r awyr o Gastell Biwmares yn dangos amddiffynfeydd a phrif borthdy

Biwmares oedd yr olaf o’i gestyll ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Mae'n dechnegol berffaith ac ar ffurf “muriau o fewn muriau”. Byddai’r adeilad hwn a godwyd yn y 13eg ganrif yn cyfateb heddiw i long ofod yn glanio’n ddiseremoni ar Ynys Môn.

Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog.

Adeg Rhyfel Cartref Lloegr roedd castell Biwmares mewn man allweddol gan ei fod yn rheoli rhan o'r daith rhwng Iwerddon a Lloegr. Roedd teulu Thomas Bulkeley, wedi bod yn ymwneud a rheoli'r castell am ganrifoedd ac roedd Thomas Bulkeley yn gefnogol i'r Brenin. Erbyn 1646 roedd y Pengryniaid wedi cael buddugoliaeth ar luoedd y brenin. Gwrthryfeloedd Ynys Môn yn erbyn y Senedd eto yn 1648, ond bu rhaid iddyn nhw ildio yr ail waith yn yr Hydref.

Mae'r castell yng ngofal Cadw ac, fel un o gestyll gogledd Cymru, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986. Mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn.

Am fanylion pellach gweler safle CADW.

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 03000 252239

Cyfeiriad

Castell Biwmares, Castle Stret, Biwmares LL58 8AP

Ymweld a'r wefan

https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-biwmares

Mwynderau

  • Taliadau cerdyn
  • Croeso i goetsys
  • Hygyrch i'r anabl
  • Toiled anabl
  • Croeso i gŵn
  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Croeso i grwpiau
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
  • Siop
  • Toiledau

gerllaw...